Mae cam meddygol yr ymgyrch, sydd bellach yn ei thrydedd flwyddyn yn hyrwyddo Cymru yn rhyngwladol fel lle gwych i feddygon, gan gynnwys meddygon teulu, hyfforddi, gweithio a byw.
Mae cam meddygol yr ymgyrch, sydd bellach yn ei thrydedd flwyddyn yn hyrwyddo Cymru yn rhyngwladol fel lle gwych i feddygon, gan gynnwys meddygon teulu, hyfforddi, gweithio a byw.
Mae'r ymgyrch yn cynnwys dau gynllun cymhelliant ariannol: cynllun wedi'i dargedu sy'n cynnig cymhelliant o £20,000 i hyfforddeion Meddygon Teulu sy'n derbyn swyddi mewn ardaloedd penodol [Ceredigion, Gogledd Cymru a Sir Benfro], lle y mae wedi bod yn anodd llenwi swyddi yn y gorffennol, a chynllun cyffredinol sy'n cynnig taliad untro i bob hyfforddai Meddyg Teulu i dalu cost sefyll eu harholiadau terfynol unwaith. Bydd y cymelliannau yn parhau i fod ar gael yn 2019.
Mae'r ymgyrch hefyd yn tynnu sylw at nifer o fanteision i feddygon sy'n dod i Gymru, gan gynnwys Cytundeb Addysg i feddygon iau, y cyntaf o'i fath yn y DU. Mae'r cytundeb yn gwarantu y bydd amser yn cael ei neilltuo ar gyfer dysgu yn ystod yr wythnos waith, er mwyn sicrhau bod meddygon o dan hyfforddiant yn cael mynediad at ystod eang o gyfleoedd addysgol i’w cefnogi wrth iddynt ddatblygu eu gyrfaoedd.
Ers lansio ymgyrch Hyfforddi, Gweithio, Byw gwelwyd cynnydd yn nifer y lleoedd i hyfforddeion Meddygon Teulu sydd wedi’u llenwi, gan gynnwys yn rhai o'r ardaloedd gwledig lle y mae wedi bod yn anodd llenwi swyddi yn y gorffennol. Yn ogystal gwelwyd cynnydd yn y nifer y lleoedd sydd wedi’u llenwi mewn arbenigeddau eraill y tynnwyd sylw atynt fel rhan o'r ymgyrch.
Yn ogystal â denu Meddygon Teulu i Gymru, bydd yr ymgyrch eleni hefyd yn parhau i annog meddygon i ystyried hyfforddi'n seiciatryddion yng Nghymru; bydd hefyd yn canolbwyntio ar recriwtio staff meddygol i rolau ym maes gofal critigol.
Dywedodd Vaughan Gething:
"Hyfforddi, Gweithio, Byw yw un o'n prif ymgyrchoedd marchnata, ac rwy'n falch iawn o'r hyn y mae wedi ei chyflawni hyd yn hyn.
"Rwy'n awyddus i ni barhau i adeiladu ar ei llwyddiant er mwyn sicrhau bod gan Gymru'r gweithlu sydd ei hangen arni ar hyn o bryd ac yn y dyfodol."