Mae’r Gweinidog Plant, Huw Irranca-Davies, yn annog mwy o bobl Cymru i ystyried mabwysiadu plant.
I nodi dechrau Wythnos Genedlaethol Mabwysiadu (15 – 21 Hydref), mae’r Gweinidog Plant, Huw Irranca-Davies, wedi talu teyrnged i’r bobl niferus ym mhob rhan o Gymru sydd wedi mabwysiadu plant. Mae’r rhieni hyn wedi creu teuluoedd newydd gyda rhai o’r plant mwyaf agored i niwed yn y wlad ac maent yn eu helpu i gyflawni eu potensial mewn cartrefi llawn cariad.
Yng Nghymru:
- Cafwyd teuluoedd newydd i fwy na 300 o blant yn 2017/18, a hynny fel rhan o grŵp o frodyr neu chwiorydd yn achos traean ohonynt
- Cafodd 212 o fabwysiadwyr eu cymeradwyo yn 2017/18.
- Ddiwedd Gorffennaf 2018, roedd 314 o blant yn aros i gael eu mabwysiadu
- Mae 63 o’r plant sydd ar Gofrestr Mabwysiadu Cymru wedi bod yn aros am fwy na 12 mis am gartref parhaol.
“I nodi Wythnos Genedlaethol Mabwysiadu, hoffwn i dalu teyrnged i’r teuluoedd hynny ledled Cymru sydd wedi mabwysiadu plentyn neu grŵp o blant, ac i’r holl weithwyr proffesiynol sy’n eu cefnogi ar bob cam o’r daith. Mae eu hymroddiad a’u hymrwymiad yn helpu i roi dechrau newydd i rai o’n plant mwyaf agored i niwed.
“Hoffwn i hefyd annog unrhyw un sydd wedi meddwl am fabwysiadu i gysylltu â’u hasiantaeth fabwysiadu leol neu’r Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol i gael cyngor ar y broses. Trwy fabwysiadu plentyn, byddwch yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol a fydd yn gweddnewid eu bywyd. Fel tad fy hun, does dim byd sy’n rhoi mwy o foddhad i rywun na gweld plentyn yn ffynnu ac yn datblygu.
“Rydyn ni wedi gwneud cynnydd sylweddol yng Nghymru o ran annog pobl i fabwysiadu plant. Ond fe wyddon ni fod angen gwneud llawer mwy i ddarparu’r lefel briodol o gymorth. Rwy wedi ymrwymo i wneud yn siŵr ein bod yn gwneud cymaint ag y gallwn i sicrhau bod y cymorth hwnnw ar gael.”
Mae Llywodraeth Cymru, drwy ei Chynllun Partneriaeth Trosglwyddo Gwybodaeth, yn helpu Cymdeithas Blant Dewi Sant (partner i’r Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol) i ddarparu pecyn cymorth arloesol, ‘Mabwysiadu gyda’n Gilydd’, sy’n cael ei lansio heddiw. Dyma’r cynllun cyntaf o’i fath ac mae’n cynnig cymorth wedi’i deilwra i fabwysiadwyr drwy asesiadau, hyfforddiant ac ymyriadau therapiwtig, cyn ac ar ôl i’r plentyn gael ei leoli gyda theulu newydd.
Yn ogystal, mae Llywodraeth Cymru wedi comisiynu gwaith ychwanegol gan Brifysgol Caerdydd sy’n adeiladu ar yr Astudiaeth Cohort Mabwysiadu. Astudiaeth unigryw yw hon o bron i 400 o blant a fabwysiadwyd o leoliadau gofal, ac mae’n rhoi manylion ynghylch anawsterau cynnar, ansawdd y berthynas deuluol ac iechyd seicolegol plant.
Yn ystod y cam nesaf, bydd yr astudiaeth yn meithrin cysylltiad uniongyrchol â grŵp o deuluoedd er mwyn archwilio eu profiadau o ffynonellau cymorth mabwysiadu anffurfiol a ffurfiol yng Nghymru, gan gynnwys llesiant seicolegol plant a’u profiadau yn yr ysgol (gan gynnwys anghenion addysgol arbennig).