Heddiw mae’r Vaughan Gething, wedi cyhoeddi cytundeb cyflog newydd i feddygon a deintyddion yng Nghymru, sy’n cynnwys mwy o gynnydd mewn cyflogau na’r hyn y cytunwyd arno yn Lloegr.
Mae Mr Gething wedi cadarnhau bod Llywodraeth Cymru wedi cytuno’n llawn ar argymhellion y Corff Adolygu Tâl Meddygon a Deintyddion:
- 2% o gynnydd sylfaenol i feddygon a deintyddion sy’n derbyn cyflog, i Ymarferwyr Meddygol Cyffredinol sy’n derbyn cyflog ac i Ymarferwyr Meddygol Cyffredinol ac Ymarferwyr Deintyddol Cyffredinol sy’n gontractwyr annibynnol
- 2% yn ychwanegol i Ymarferwyr Meddygol Cyffredinol sy’n gontractwyr annibynnol, i Ymarferwyr Meddygol Cyffredinol sy’n derbyn cyflog ac i grant hyfforddwyr Ymarferwyr Meddygol Cyffredinol a chyfradd arfarnwyr Ymarferwyr Meddygol Cyffredinol
- 1.5% yn ychwanegol i feddygon arbenigol a chyswllt (SAS).
“Rwy’n falch o gyhoeddi heddiw fy mod wedi gallu gweithredu argymhellion y Corff Adolygu yn llawn.
Mae’r codiad cyflog hwn, a fydd yn cael ei ôl-ddyddio i 1 Ebrill 2018, yn cydnabod gwerth ac ymroddiad meddygon a deintyddion sy’n gweithio’n galed, a’u cyfraniad allweddol i’r GIG yng Nghymru. Mae’r cytundeb hwn yn mynd ymhellach na’r hyn y cytunwyd arno ar gyfer meddygon a deintyddion dros y ffin, ac mae’n dangos eto pam y mae Cymru’n lle gwych i hyfforddi, gweithio a byw ynddo.”
chwanegodd Mr Gething:
“Yn dilyn blynyddoedd o gyni a orfodwyd gan Lywodraeth y DU, rydym wedi neilltuo cyllid ychwanegol i fodloni argymhellion y Corff Adolygu. Y gwir amdani o hyd, fodd bynnag, yw bod ein cyllidebau’n gyfyngedig, felly mae diwallu cytundeb cyflogau sy’n deillio o godi cap cyflogau Llywodraeth y DU heb gyllid priodol yn ei sgil yn golygu bod risg o ran cyllido GIG Cymru yn y dyfodol.
“Rwy’n falch iawn hefyd bod BMA Cymru Wales wedi cytuno i weithio mewn partneriaeth gyda Llywodraeth Cymru a chyflogwyr i GIG i wireddu’r uchelgeisiau a nodwyd yn Cymru Iachach, o ran cynaliadwyedd y gweithlu yn y tymor hir a rhoi Model Gofal Sylfaenol Cymru ar waith.
“Law yn llaw â’n cytundeb diweddar ar godiad cyflog i weddill gweithlu GIG Cymru, mae hyn yn dangos ein bod wedi ymrwymo i fuddsoddi yn y staff er mwyn sicrhau y gallant barhau i ddarparu gofal iechyd a chymdeithasol rhagorol. Ar y cyd ag ymgyrchoedd recriwtio megis Hyfforddi, Gweithio, Byw, bydd hyn yn ein helpu i greu gweithlu a all wireddu ein gweledigaeth hirdymor ar gyfer y GIG yng Nghymru.”