Bydd y cyllid yn cefnogi'r broses o uno meddygfeydd Abergwaun ac Wdig.
Bydd y cyllid yn cefnogi'r broses o uno meddygfeydd Abergwaun ac Wdig. Drwy ddiweddaru'r cyfleusterau ym meddygfa Abergwaun, bydd modd cyflawni’r newid hwn i wasanaeth a chynnig gwell wasanaethau i gleifion.
Dywedodd yr Ysgrifennydd Iechyd:
“Mae ein cynllun hirdymor ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru yn canolbwyntio ar roi gofal gwell, yn agosach at gartrefi cleifion. Bydd y buddsoddiad hwn yng Nghanolfan Iechyd Abergwaun yn gwireddu'r uchelgais hon. Rwy'n falch ein bod yn darparu £646,000 i helpu i ddiweddaru'r Ganolfan hon a gwella mynediad at wasanaethau lleol i gleifion.”
Bydd y buddsoddiad hefyd yn arwain at:
- wasanaeth nyrsys ardal gwell drwy ei leoli yn y Ganolfan Iechyd newydd
- mynediad uniongyrchol at glinigau gwrthgeulyddion, fel na fydd angen i gleifion deithio mwyach i Ysbyty Llwynhelyg
- gwella'r llety ar gyfer gwasanaethau cymunedol gan gynnwys ffisiotherapi, bydwreigiaeth a nyrsys seiciatrig cymunedol
- cyfleoedd i uno'r adnodd staff, gan fynd i'r afael â'r heriau recriwtio presennol sydd wedi'u hachosi'n rhannol gan y ffaith fod dau wahanol bractis i'w cael ar hyn o bryd.
“Ar ran y bwrdd iechyd, rwyf wrth fy modd bod Llywodraeth Cymru wedi cymeradwyo'r buddsoddiad hwn ar gyfer adfywio ac ailddatblygu'r Ganolfan Iechyd yn Abergwaun. Bydd y gwaith hanfodol hwn yn ein galluogi i gryfhau gwasanaethau Gofal Sylfaenol yn yr ardal a gwella ystad y Ganolfan Iechyd, yn ogystal â darparu cyfleoedd i rannu staff. Ni fydd cymaint o angen i gleifion deithio i Ysbyty Cyffredinol Llwynhelyg i fynychu clinigau gwrthgeulyddion oherwydd bydd y gwasanaeth hwn ar gael iddynt yn y Ganolfan Iechyd. Bydd llety gwell hefyd ar gyfer amryw o wasanaethau Cymunedol gan gynnwys ffisiotherapi, ymwelwyr iechyd, nyrsys ardal, nyrs methiant y galon, bydwreigiaeth, podiatreg, nyrs seiciatrig cymunedol, awdioleg, y gwasanaeth briwiau coes a'r gwasanaeth retinopathi diabetig."
Mae'r buddsoddiad wedi'i dargedu hwn rydyn ni wedi'i gyhoeddi heddiw yn un o'r buddsoddiadau mwyaf gan Lywodraeth Cymru yn y seilwaith gofal sylfaenol a chymunedol. Yn gynharach eleni, cafodd 19 o brosiectau eu cymeradwyo i gynnig gwasanaethau iechyd a gofal yn agosach at gartrefi unigolion sydd angen eu defnyddio.