Mae'r Ysgrifennydd Iechyd, Vaughan Gething, wedi cyhoeddi ei fod yn rhoi £1.2m ar gyfer gwella'r uned dialysis arennol yn Ysbyty Athrofaol Cymru Caerdydd.
Yn ystod ymweliad â'r uned heddiw (dydd Iau 19 Gorffennaf), cafodd Mr Gething y cyfle i weld drosto'i hun sut y bydd y cyllid yn cael ei ddefnyddio i uwchraddio'r uned er mwyn i gleifion gael eu trin mewn amgylchedd sy'n fwy addas yn glinigol, gan wella eu profiad yn gyffredinol.
Dywedodd: “Amcangyfrifir bod clefyd cronig yr arennau'n effeithio ar 6‐8% o'r boblogaeth gyfan. Rydyn ni'n disgwyl y bydd cynnydd yn llawer o'r ffactorau sy'n ei gwneud yn fwy tebygol y gallai rhywun ddioddef o glefyd yr arennau, ffactorau fel oedran, diabetes sy'n gysylltiedig â gordewdra, a chlefyd coronaidd y galon.
Mae hynny’n golygu y bydd cynnydd hefyd yn y galw am wasanaethau arennol.
Mae ein cynllun i ddarparu gwasanaethau arennol yn cydnabod yr angen i ehangu gwasanaethau yn y De-ddwyrain. O ganlyniad i’r buddsoddiad hwn, bydd yr uned yn gallu gweld mwy o gleifion, a bydd profiad y cleifion sydd ag anghenion mwy cymhleth yn well.”
Roedd y gwaith o gynllunio'r uned wedi cael ei lywio gan anghenion clinigol. Mae wedi cael ei chynllunio felly i fodloni anghenion penodol oddeutu 20 – 25 o gleifion sydd ag anghenion cymhleth iawn. Cleifion yw’r rhain y mae angen dialysis rheolaidd arnynt, yn ogystal â chymorth allweddol amlddisbyblaethol gan y llu o wahanol arbenigwyr sy'n gweithio yn yr Ysbyty Athrofaol.
Bydd y datblygiad hwn, ochr yn ochr â'r Ward Arennol (B5) a'r Uned Drawsblaniadau yn yr Ysbyty, yn golygu y bydd y bwrdd iechyd yn gallu trin cleifion sydd ag anafiadau acíwt i'w harennau mewn modd mwy effeithlon, yn ogystal â chleifion eraill yn yr ysbyty y mae angen dialysis rheolaidd arnynt fel cleifion mewnol.
Dywedodd Catherine Wood, Rheolwr y Gyfarwyddiaeth Arenneg ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro:
“Rydyn ni'n hynod falch bod y cyllid hwn wedi cael ei fuddsoddi yn ein gwasanaethau.
“Suite 19 yw'r brif uned arennol yn Ysbyty Athrofaol Caerdydd, ac mae'n trin cleifion sydd ag amrywiaeth eang o anghenion, gan gynnwys cleifion sydd ag anghenion meddygol neu nyrsio cymhleth.
“Bydd y buddsoddiad yn golygu ein bod yn gallu trin cyflyrau arennol mewn amgylchedd mwy addas sydd wedi ei deilwra i fodloni anghenion y claf, gan alluogi'r staff i roi'r gofal gorau posibl.”