Wrth i Gymru baratoi ar gyfer wythnos o ddathliadau i nodi 70 mlynedd ers sefydlu'r GIG
Bu hefyd yn ystyried rôl Cymru yn y gwaith o lunio GIG heddiw, gan amlinellu nodau Llywodraeth Cymru i sicrhau bod ein gwasanaeth iechyd yn parhau i ddarparu gofal iechyd o ansawdd uchel, sy'n rhad ac am ddim wrth ei ddefnyddio, wrth iddo anelu tuag at y canmlwyddiant a thu hwnt.
Ers i Aelod Seneddol Glynebwy, Aneurin Bevan sefydlu'r gwasanaeth ym 1948, mae Cymru wedi chwarae rhan allweddol yn y gwaith o'i ddatblygu. Ers datganoli, mae Cymru hefyd wedi arwain y ffordd yn y DU mewn sawl maes, gan gynnwys cyflwyno system optio allan ar gyfer rhoi organau sydd bellach yn cael ei fabwysiadu gan wledydd eraill y DU.
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Vaughan Gething:
"Mae'n anrhydedd mawr i mi fod yn Ysgrifennydd Iechyd Cymru yn ystod dathliadau'r gwasanaeth iechyd yn 70 yn y wlad lle cafodd ei sefydlu. Rwy'n edrych ymlaen at gael dathlu'r gwasanaeth hwn, y mae gennym feddwl mor fawr ohono, wrth ochr yr holl staff ymroddgar a gweithgar sydd wedi gwneud y gwasanaeth yr hyn ydyw heddiw. Mae'n gyfle i ddathlu'r hyn sydd wedi'i gyflawni ers 1948 a hefyd i gofio egwyddorion craidd y gwasanaeth.
Er bod llawer wedi newid ers 1948, mae geiriau sylfaenydd y GIG, Aneurin Bevan, yn dal i fod mor berthnasol heddiw ag yr oeddent 70 mlynedd yn ôl,
“Nid oes gan unrhyw gymdeithas yr hawl i’w galw ei hunan yn waraidd os bydd yn gwrthod rhoi cymorth meddygol i rywun sâl am y rheswm nad oes ganddo ddigon o arian.”
Yn ogystal â bod yn gyfle i ddathlu llwyddiannau'r GIG, dywedodd Mr Gething fod dathlu'r 70 mlynedd hefyd yn gyfle i edrych tua'r dyfodol.
"Mae cynllun hirdymor Llywodraeth Cymru ar gyfer dyfodol iechyd a gofal cymdeithasol, sef Cymru Iachach, yn canolbwyntio ar ddarparu mwy o wasanaethau ar y cyd mewn cymunedau – gan ddileu llawer o'r rhwystredigaethau presennol a fynegir gan y rheini sy'n defnyddio'r system ac sy'n gweithio oddi mewn iddi.
"Yn y dyfodol, bydd pobl ond yn mynd i ysbyty cyffredinol pan fo hynny'n hanfodol. Y bwriad yw creu gofal hyd yn oed yn well yn lleol gyda chymorth a thriniaethau ar gael ar draws ystod o wasanaethau yn y gymuned. Mae angen newid sylfaenol i sicrhau dyfodol cynaliadwy ac i wneud yn siŵr bod y GIG yng Nghymru yn gallu cadw at yr egwyddor honno a sefydlwyd yng Nghymru 70 mlynedd yn ôl, sef darparu gofal iechyd am ddim i bawb."
Mae llu o ddigwyddiadau'n cael eu cynnal ar hyd a lled Cymru i ddathlu pen-blwydd y gwasanaeth iechyd yn 70 oed, a bydd yr Ysgrifennydd Iechyd, ynghyd â'r Prif Weinidog, Carwyn Jones, yn bresennol yn nifer ohonynt.
Canolbwynt y dathliadau, ar y diwrnod cyn y pen-blwydd (4 Gorffennaf), fydd gwasanaeth diolchgarwch yn Eglwys Gadeiriol Llandaf ar gyfer y GIG. Bydd EUB Tywysog Cymru yn bresennol ac yn ei gyfarch bydd staff presennol a blaenorol o bob cwr o Gymru, ynghyd ag Aneira Thomas, y baban cyntaf i'w geni dan y GIG.