Heddiw, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru mai Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf fydd yn gyfrifol am wasanaethau gofal iechyd yn ardal Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr o fis Ebrill y flwyddyn nesaf.
Ar hyn o bryd, Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg sy'n darparu gwasanaethau iechyd ar gyfer pobl ardal Pen-y-bont ar Ogwr, ochr yn ochr â strwythurau partneriaeth cysylltiedig ar gyfer darparu gwasanaethau cymdeithasol ar draws Bae'r Gorllewin.
Mae hyn yn creu sefyllfa heriol i Gyngor Pen-y-bont ar Ogwr, sy'n gweithio gyda phartneriaid ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd i sicrhau twf economaidd a gwelliannau ym maes addysg. Bydd y newid a gyhoeddwyd heddiw yn golygu bod trefniadau partneriaeth Cyngor Pen-y-bont ar Ogwr ym meysydd yr economi, addysg, iechyd a gwasanaethau cymdeithasol yn cael eu halinio’n gadarn ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd.
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Vaughan Gething:
“Wrth ddod i'r penderfyniad hwn, rydyn ni'n cydnabod mai’r ffordd orau o ddiwallu anghenion iechyd pobl yw drwy weithredu trefniadau partneriaeth integredig a chadarn. Dw i'n ddiolchgar iawn i'r byrddau iechyd am eu cymorth parhaus wrth iddyn nhw gymryd rhan yn y broses hon. Dw i’n edrych ymlaen at weithio gyda nhw ac eraill dros y misoedd nesaf i roi'r trefniadau partneriaeth newydd ar waith, a chreu sail gadarn ar gyfer gwella a chynnal gwasanaethau cyhoeddus.”
Bydd Llywodraeth Cymru yn cyflwyno deddfwriaeth maes o law er mwyn rhoi effaith i’r newid yn ffiniau'r byrddau iechyd erbyn mis Ebrill 2019.