Bydd staff sy'n gweithio mewn cartrefi nyrsio a chartrefi gofal preswyl i oedolion yng Nghymru yn gymwys i gael brechiadau rhag y ffliw yn rhad ac am ddim drwy fferyllfeydd cymunedol y GIG y gaeaf hwn
Mae staff gofal iechyd y GIG eisoes yn cael cynnig brechiad rhag y ffliw gan eu cyflogwyr fel rhan o'r gwasanaethau iechyd galwedigaethol, gyda mwy a mwy yn derbyn y brechiad o flwyddyn i flwyddyn.
Y gaeaf diwethaf, hyd at ddiwedd mis Mawrth 2018, cafwyd 71 adroddiad am achosion o'r ffliw yng Nghymru, gyda 42 o'r rheiny (60%) yn digwydd mewn cartrefi gofal. Mae astudiaethau wedi dangos mai nifer isel o'r staff mewn cartrefi gofal sy'n derbyn brechiad rhag y ffliw, a bod mwy o berygl iddynt ddal y ffliw.
Hyd yma, cyflogwyr unigol oedd yn gyfrifol am gynnig brechiad rhag y ffliw i staff gofal cymdeithasol. Er gwaethaf lefelau uchel o frechu ymysg preswylwyr, gall y ffliw ledaenu'n rhwydd o fewn cartrefi gofal, a chael ei basio i breswylwyr gan staff â symptomau ysgafn iawn, os o gwbl. Mae hynny'n digwydd, i raddau, gan nad yw imiwnedd pobl yn ymateb mor dda i'r brechiad wrth heneiddio, ac yn golygu bod brechu staff sy'n gofalu am bobl hŷn a bregus yn bwysicach fyth.
Mae'r Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu yn argymell y dylai gweithwyr gofal iechyd a gofal cymdeithasol gael brechiad rhag y ffliw er mwyn helpu i amddiffyn cleifion a phreswylwyr agored i niwed dan eu gofal rhag effeithiau'r ffliw.
Dywedodd yr Ysgrifennydd Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Vaughan Gething:
"Wrth i ni baratoi ar gyfer tymor y ffliw bob blwyddyn, mae'n bwysig sicrhau bod y gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol mor gadarn â phosib er mwyn eu galluogi i ddygymod yn well â'r pwysau tymhorol eithriadol.
"Profwyd bod brechu staff yn ffordd effeithiol o gyfyngu ar ledaeniad y clefyd a lleihau nifer y marwolaethau ymysg cleifion mewn cartrefi gofal. Gall hefyd helpu i sicrhau parhad busnes drwy leihau nifer yr achosion o salwch yn gysylltiedig â'r ffliw ymysg staff, a'r angen i ddarparu gwasanaeth locwm. Mae gan y sector gofal cymdeithasol rôl hanfodol i'w chwarae i osgoi derbyniadau i'r ysbyty dros y gaeaf, yn arbennig ymysg pobl hŷn.
"Felly, ar gyfer gaeaf 2018-19, rydw i wedi penderfynu cynnig brechiad rhag y ffliw i staff sy'n gweithio mewn cartrefi nyrsio a chartrefi gofal preswyl i oedolion, heb unrhyw gostau iddynt eu hunain nac i'w cyflogwyr, drwy fferyllfeydd cymunedol y GIG."
Yn ogystal â hyn bydd y rhaglen i frechu plant yn cael ei ehangu'n sylweddol. Y gaeaf nesaf, bydd y rhaglen yn cael ei hymestyn i ddwy flwyddyn ysgol arall i gynnwys blynyddoedd ysgol 5 a 6. Bydd hyn yn golygu bod yr holl blant oedran cynradd o'r dosbarth derbyn i flwyddyn 6 yn cael cynnig y brechiad rhag y ffliw o 2018-19 ymlaen.
Ychwanegodd yr Ysgrifennydd Iechyd:
"Mae'n bwysig iawn i bobl sydd mewn perygl o ddioddef cymhlethdodau o'r ffliw - fel menywod beichiog, pobl 65 oed ac yn hŷn, a phobl a chyflyrau iechyd hirdymor - gael brechiad. Yn 2017-18, manteisiodd mwy nag erioed o’r grwpiau hyn ar y brechiad. Mae hyn yn newyddion da, ond fedrwn ni ddim llaesu ein dwylo. Bydd ein hymgyrch ffliw ar gyfer 2018-19 yn parhau i bwysleisio manteision gwirioneddol cael brechiad rhag y ffliw."