I nodi pen-blwydd y GIG yn 70 oed eleni, heddiw bydd plant ledled Cymru yn cael gwahoddiad i gymryd rhan mewn cystadleuaeth arlunio.
Cystadleuaeth ar gyfer plant oedran cynradd mewn dau gategori oedran, sef 7 – 9 oed a 10- 11 oed, yw hon a bydd yn eu hannog i feddwl sut bydd y GIG yn edrych yn y dyfodol, pa bethau arloesol fydd wedi cyrraedd y byd meddygol a pha bethau fydd yn bwysig ym maes gofal iechyd yn eu barn nhw.
Thema’r gystadleuaeth yw: “Sut bydd y GIG yng Nghymru yn edrych ar ei ben-blwydd yn 100 oed yn 2048?” a fydd yn cau ar 31 Mai 2018. Dewisir enillydd o bob categori oedran i gynrychioli eu bwrdd iechyd lleol.
Caiff yr 14 enillydd eu gwahodd i wasanaeth diolchgarwch i ddathlu GIG70 yn Eglwys Gadeiriol Llandaf ar 4 Gorffennaf 2018.
I nodi’r dathliadau, bydd y Bathdy Brenhinol yn cyflwyno enillwyr â cheiniog “N am NHS” o’u casgliad diweddaraf i ddathlu’r pethau gwych am Brydain Fawr. Bydd dau enillydd o’r grwp cyfan, a gaiff eu dewis gan yr Ysgrifennydd Iechyd Vaughan Gething, yn derbyn gwahoddiad i ymweld i’r Bathdy Brenhinol i gael y cyfle i greu eu ceiniog eu hunain.
Dywedodd, Vaughan Gething:
“Mae’n bleser gennyf gyhoeddi bod y gystadleuaeth hon ar agor. Dyma ffordd ardderchog o sicrhau bod pobl o bob oedran yn gallu cymryd rhan i ddathlu pa mor arbennig yw’r GIG.
“Rwy’n edrych ymlaen ar weld yr holl ddarluniau, ac rwy’n siŵr y byddant yn dangos pa mor greadigol a thalentog yw plant Cymru. Mae’n bosib y byddwn hefyd yn darganfod rhai o ddylunwyr a dyfeiswyr y dyfodol!”
I gael rhagor o wybodaeth am y gystadleuaeth, gan gynnwys y telerau ac amodau, ewch i wefan y GIG yng Nghymru (dolen allanol)