Mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau sut y bydd cronfa gwerth £50m y flwyddyn sy'n cefnogi gofal cydgysylltiedig yn cael ei ddefnyddio i ddarparu gofal yn nes at gartrefi pobl dros y 12 mis nesaf.
Nod y gronfa yw darparu gwasanaethau integredig a gwasanaethau ataliol effeithiol i blant sydd ag anghenion cymhleth, pobl ag anableddau dysgu, pobl hŷn a gofalwyr.
- Mae £30 miliwn yn cael ei fuddsoddi mewn prosiectau sy'n helpu pobl hŷn i gadw eu hannibyniaeth, i osgoi derbyniadau i'r ysbyty ac i atal oedi wrth eu rhyddhau o'r ysbyty.
- Mae £15 miliwn yn cael ei fuddsoddi mewn gwasanaethau sy'n cefnogi pobl ag anableddau dysgu, plant ag anghenion cymhleth a gofalwyr.
- Mae £3 miliwn yn cael ei fuddsoddi er mwyn parhau i ddarparu Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig Cenedlaethol i Gymru, a fydd yn gwella gwasanaethau cymorth i blant, pobl ifanc ac oedolion drwy roi cymorth gydol oes iddynt.
- Mae £2 filiwn yn mynd i gael ei defnyddio i barhau i ddarparu System Wybodaeth Gofal Cymunedol Cymru, system TG gyffredin ar gyfer byrddau iechyd a'r gwasanaethau cymdeithasol sy'n darparu cofnod gofal a rennir. Mae hyn yn caniatáu i ymarferwyr gydlynu a rheoli gwaith ar draws ffiniau sefydliadol.
Dywedodd Huw Irranca-Davies:
"Mae'r £50 miliwn yr ydym yn ei fuddsoddi yn y gronfa gofal integredig eleni yn dangos ein hymrwymiad i ddarparu gwasanaethau integredig effeithiol ar draws y meysydd iechyd, gwasanaethau cymdeithasol, tai a'r trydydd sector.
"Bydd yn helpu i ddarparu gwasanaethau di-dor ac arloesol newydd i blant, pobl hŷn a phobl ag anableddau dysgu ac anghenion cymhleth eraill. Bydd hefyd yn sicrhau eu bod yn cael y gofal a'r cymorth sydd eu hangen arnynt i fyw'r bywyd y maent yn dymuno ei fyw."