Cynhaliwyd yr adolygiad gan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn dilyn ymgynghoriad ag amrywiol randdeiliaid, dan oruchwyliaeth Bwrdd y Rhaglen Iechyd Rhywiol.
Cynhaliwyd yr adolygiad gan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn dilyn ymgynghoriad ag amrywiol randdeiliaid, dan oruchwyliaeth Bwrdd y Rhaglen Iechyd Rhywiol.
Mae'r adroddiad yn cydnabod cyfraniad sylweddol gwasanaethau iechyd rhywiol Cymru i atal a thrin heintiau a drosglwyddir yn rhywiol a darparu dulliau atal cenhedlu.
Fodd bynnag, mae'r adroddiad yn tynnu sylw at anghysondeb yn y ddarpariaeth ar draws Cymru, gan gynnwys gwasanaethau sy'n cael eu darparu gan ofal sylfaenol, ac argaeledd gwasanaethau erthylu.
Canfuwyd hefyd bod nifer y rhai sy'n mynd i glinigau iechyd rhywiol wedi dyblu dros y pum mlynedd ddiwethaf, gan roi pwysau ar y modelau gwasanaeth presennol.
Gan groesawu'r adroddiad, dywedodd yr Ysgrifennydd Iechyd, Vaughan Gething:
"Fy ngweledigaeth i ar gyfer gwasanaethau iechyd rhywiol Cymru yw gwasanaeth modern sy'n diwallu anghenion yr holl ddefnyddwyr. Rwy'n falch iawn o weld bod yr adroddiad yn canmol ymrwymiad y gweithlu iechyd rhywiol yng Nghymru, a'r cynnydd a wnaed hyd yma.
"Rydyn ni wedi cymryd camau enfawr ymlaen dros y blynyddoedd diwethaf yn gostwng beichiogrwydd ymysg pobl yn eu harddegau, ond mae baich heintiau a drosglwyddir yn rhywiol yn parhau i fod yn sylweddol, ac mae'n glir o'r adroddiad hwn bod angen gwneud mwy, yn arbennig o ran mynediad ac anghydraddoldeb."
Ymysg argymhellion yr adroddiad mae'r canlynol:
- Byrddau iechyd i ddatblygu dealltwriaeth o anghenion y boblogaeth a chael system yn ei lle i ddarparu gwasanaethau i grwpiau agored i niwed
- Ystyried diwygio'r fframwaith cyfreithiol er mwyn caniatáu i gleifion gymryd meddyginiaeth i derfynu beichiogrwydd yn y cartref
- Ehangu rôl gofal sylfaenol a fferyllfeydd mewn darpariaeth iechyd rhywiol, er enghraifft darparu tabledi atal cenhedlu dros y cownter
- Byrddau iechyd i edrych ar gyfleoedd eraill i ymestyn darpariaeth Dull Atal Cenhedlu Gwrthdroadwy Hirdymor (LARC) mewn gofal sylfaenol ac eilaidd.
"Roeddem am gael darlun gonest o'r gwasanaethau, a nawr mae un gennym i'n helpu i wella. Byddwn yn gweithio gyda rhanddeiliaid i ddatblygu cynllun gweithredu, ac fe fydd Bwrdd y Rhaglen Iechyd Rhywiol yn parhau yn ei le i oruchwylio a helpu i weithredu'r argymhellion dros gyfnod o ddwy flynedd.
"Hoffwn ddiolch i adolygwyr Iechyd Cyhoeddus Cymru am gynnal yr adolygiad mewn ffordd gydweithredol, a diolch hefyd i bawb a gyfrannodd ato."
Dywedodd Dr Giri Shankar, Prif Feddyg Ymgynghorol Diogelu Iechyd gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru, a oruchwyliodd yr adolygiad ar ran y sefydliad:
"Rydym yn ddiolchgar iawn i Lywodraeth Cymru am ofyn i ni gynnal yr adolygiad hwn o wasanaethau iechyd rhywiol Cymru, yr oedd dirfawr ei angen. Roedd yn gofyn am gydweithio rhwng yr holl bartneriaid sy'n rhan o'r ddarpariaeth iechyd rhywiol, ac mae wedi datgelu cyfoeth o wybodaeth am gyflwr gwasanaethau yng Nghymru.
"Er bod cynnydd aruthrol wedi'i wneud i roi sylw i achosion o feichiogi ymysg pobl yn eu harddegau, mae llawer o waith i'w wneud o hyd ar hygyrchedd gwasanaethau, ymddygiadau peryglus, moderneiddio systemau casglu gwybodaeth, mynediad at wasanaethau erthylu a symud y gofal yn agosach at y cleifion.
"Rydym yn hyderus y bydd y cynllun gweithredu a ddaw o'r adolygiad yn cynnig cyfle ardderchog i symud ymlaen ymhellach yn y meysydd pwysig hyn, yn arbennig drwy fanteisio ar ddatblygiadau diweddar mewn technoleg."