Cyhoeddodd yr Ysgrifennydd Iechyd, Vaughan Gething y bydd £3m o gyllid yn cael ei ddarparu i foderneiddio gwasanaethau hematoleg, oncoleg a gofal lliniarol yn Ysbyty Llwynhelyg, Hwlffordd.
Bydd y cyllid yn golygu bod modd moderneiddio Ward 10 bresennol yr ysbyty i wella diogelwch, ansawdd clinigol a darparu gwell amgylchedd i gleifion a staff. Bydd hen ardal Ward 9 hefyd yn cael ei datblygu fel ardal i ofalu am gleifion Ward 10 wrth i'r ward honno gau i'r gwaith adeiladu fynd rhagddo.
Mae cymuned leol Sir Benfro wedi chwarae rhan sylweddol yn helpu i godi arian i wella'r cyfleusterau hyn, gyda dros £450,000 yn cael ei godi hyd yma gan Gronfa Gwasanaethau Canser Sir Benfro y Bwrdd Iechyd ac Apêl Baner Ward 10 Elly.
Dywedodd yr Ysgrifennydd Iechyd, Vaughan Gething:
"Rwy'n falch iawn o fedru cyhoeddi'r cyllid o £3.15m i gwblhau'r gwelliannau i Ward 9 a Ward 10 yn Ysbyty Llwynhelyg. Bydd y prosiect hwn yn trawsnewid y gwasanaethau yn yr ysbyty i ddarparu amgylchedd modern, addas at y diben i'r staff, y cleifion a'u teuluoedd. Roedd yn bleser cyfarfod staff a'r teulu Neville heddiw. Mae ymdrechion Elly i godi arian wedi ysbrydoli pawb, ac fe fydd y cyfleuster newydd hwn yn deyrnged i'w gwaith caled a'i hymroddiad."
Dwedodd Cadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, Bernardine Rees OBE:
"Dyma newyddion gwych i Sir Benfro. Hoffwn i dalu teyrnged i'n staff, y rhai fu'n codi arian a'n partneriaid am eu rhan yn cyrraedd y garreg filltir hon, yn arbennig Apêl Baner Ward 10 Elly. Rydyn ni'n edrych ymlaen nawr at gael symud ymlaen yn gyflym i wneud y gwelliannau hyn i'r boblogaeth leol."
Dywedodd Lyn Neville, tad Elly:
"Ar ran Apêl Baner Ward 10 Elly, rydyn ni'n falch tu hwnt bod y cyllid wedi cael ei roi i Ward 10, cam arall tuag at ddarparu gwasanaethau canser ardderchog i Sir Benfro. Ar nodyn personol, ar ôl sawl blwyddyn o ymgyrchu dros Ward 10 rwyf hefyd yn falch iawn y bydd cleifion a staff Uned Ddydd Hematoleg ac Oncoleg Sir Benfro yn medru derbyn a darparu gofal mewn cyfleusterau newydd ardderchog."
Disgwylir i'r gwaith ddechrau cyn hir a chael ei gwblhau erbyn haf 2019.