Bydd cleifion lle yr amheuir eu bod yn dioddef o glefyd y galon yn cael diagnosis a thriniaeth yn gynt wrth i darged o wyth wythnos gael ei osod ar brofion diagnostig yng Nghymru.
Mae'r Ysgrifennydd Iechyd, Vaughan Gething wedi cymeradwyo'r cam hwn wedi i adolygiad ganfod nad yw mwyafrif y profion sydd eu hangen ar gleifion cardiaidd yn gorfod cadw at y targed o wyth wythnos.
O 1 Ebrill ymlaen, bydd wyth prawf diagnostig ychwanegol ar gyfer cleifion lle bo amheuaeth eu bod yn dioddef o glefyd y galon yn cael eu hychwanegu at y targed wyth wythnos. Yn flaenorol, dim ond y prawf straen a'r echo cardiogram oedd yn gorfod cael eu cynnal o fewn y targed.
Edrychwyd ar y profion diagnostig cardioleg ychwanegol rhwng mis Ebrill 2017 a mis Rhagfyr 2017. Yn ystod y cyfnod hwn, gostyngodd nifer y cleifion oedd yn aros dros wyth wythnos am eu prawf o 33% i 17%.
Dywedodd yr Ysgrifennydd Iechyd:
"Rydyn ni wedi gweld gwelliant yn yr amser aros am ddiagnosis yng Nghymru dros y blynyddoedd diwethaf, ond rydyn ni wedi ymrwymo i barhau i wella. Mae ond yn iawn i ni ychwanegu'r profion hyn ar gyfer clefyd y galon at y targed o wyth wythnos – mae disgwyl i hyn arwain at ostyngiad sylweddol yn nifer y cleifion sy'n aros yn hirach nag y dylen nhw am brofion. Ac felly, bydd modd i gleifion sy'n sâl iawn gael diagnosis a thriniaeth yn gynt."
Dywedodd Llywydd Cymdeithas Gardiofasgwlaidd Cymru, Dr Jonathan Goodfellow:
"Mae Cymdeithas Gardiofasgwlaidd Cymru yn croesawu'r cyhoeddiad hwn. Mae angen i bobl sy'n dioddef o symptomau clefyd y galon gael diagnosis a thriniaeth effeithiol yn gyflym. Wrth ddarparu profion diagnostig a delweddu yn lleol, mae modd i gleifion gael diagnosis manwl gywir drwy gyn lleied o brofion â phosibl, ac felly bydd modd i gleifion osgoi cael triniaeth ddiangen.
"Mae'r gwelliannau i'r amseroedd aros ers i ni edrych ar y profion yn galonogol, ac rydyn ni'n gobeithio y bydd y byrddau iechyd yn mynd i'r afael ag unrhyw broblemau sy'n parhau drwy gamau adrodd ffurfiol."