Mae GIG Cymru yn cyflogi mwy nag erioed o feddygon ymgynghorol, nyrsys, bydwragedd a staff y gwasanaeth ambiwlans, yn ôl ystadegau newydd a gyhoeddwyd heddiw.
Croesawyd y ffigurau gan yr Ysgrifennydd Iechyd, Vaughan Gething, a ddywedodd bod y cynnydd yn arwydd clir o ymrwymiad Llywodraeth Cymru i'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol.
Mae'r ystadegau'n dangos bod dros 90,000 o bobl bellach yn cael eu cyflogi gan y GIG yng Nghymru, cynnydd o 1,880 (2.1%) ers 2016 - ffigur uwch nag erioed.
Hefyd gwelir bod cyfanswm nifer y staff cyfwerth ag amser llawn sy'n cael eu cyflogi'n uniongyrchol gan y GIG wedi codi 1,629 (2.1%) dros y flwyddyn ddiwethaf i 77,917, i fyny o 76,288 yn 2016.
Mae'r ystadegau hefyd yn dangos y canlynol:
- 2,466 o ymgynghorwyr ysbyty cyfwerth ag amser llawn, cynnydd o 97 (4.1%) ers 2,369 yn 2016 a'r nifer uchaf erioed
- 22,612 o nyrsys, bydwragedd ac ymwelwyr iechyd cymwys cyfwerth ag amser llawn, cynnydd o 134 (0.6%) ers 22,479 yn 2016 a'r nifer uchaf erioed
- 2,084 o weithwyr ambiwlans cyfwerth ag amser llawn, cynnydd o 39 (1.9%) ers 2,045 yn 2016 a'r nifer uchaf erioed
- 12,799 o staff gwyddonol, therapiwtig a thechnegol cyfwerth ag amser llawn, cynnydd o 370 (3.0%) ers 12,429 yn 2016 a'r nifer uchaf erioed.
"Rwy'n hynod o falch bod mwy nag erioed o staff yn gweithio i'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol yng Nghymru, sy'n arwydd clir o ymrwymiad y llywodraeth hon i’r gwasanaeth iechyd. Mae mwy o nyrsys cymwys, mwy o ymgynghorwyr mewn ysbytai a mwy o weithwyr ambiwlans yn dystiolaeth bod y Llywodraeth yn buddsoddi yn nyfodol ei gwasanaeth iechyd.
"Mae'r cynnydd da o ran staffio sy'n cael ei gyhoeddi heddiw yn gadarnhaol iawn, ond rydyn ni'n cydnabod bod mwy o waith i'w wneud hyd. Dyna pam rydyn ni'n buddsoddi i addysgu a hyfforddi gweithwyr gofal iechyd yn y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru, er mwyn sicrhau ein bod yn datblygu gweithlu'r dyfodol.
"Rydw i hefyd wedi cadarnhau y bydd bwrsarïau i fyfyrwyr nyrsio, bydwragedd a gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd yn parhau - gan ddangos ein hymrwymiad i sicrhau bod gan y gwasanaeth iechyd y staff angenrheidiol ar gyfer y dyfodol.
"Drwy ein hymgyrch lwyddiannus, byddwn yn parhau i wneud popeth o fewn ein gallu i annog mwy o weithwyr iechyd proffesiynol i Hyfforddi, Gweithio a Byw yng Nghymru."