Gyda rhybudd coch am dywydd garw ar draws Cymru Vaughan Gething wedi annog pobl i gadw'n ddiogel a gwneud dewis doeth yn ystod y tywydd oer.
"Rydyn ni'n gweld tywydd eithafol ar draws Cymru, ac yn annog pobl i gymryd gofal, cadw'n gynnes, ac yn bwysig iawn i gadw llygad ar ffrindiau, cymdogion a pherthnasau hŷn neu rhai sydd yn agored i niwed.
"Tra bod cryn dipyn o waith paratoi wedi digwydd i gynllunio ar gyfer y gaeaf ar draws y Gwasanaeth Iechyd a gwasanaethau gofal cymdeithasol, rydyn ni yn y sefyllfa orau bosib i ddygymod â'r pwysau ychwanegol o ganlyniad i'r tywydd oer. Bydd hyn yn sicrhau bod y gwasanaethau mwyaf hanfodol yn parhau i weithredu.
"Fodd bynnag, er gwaethaf ein holl ymdrechion, mae'n debyg y bydd rhywfaint o amharu ar rai gwasanaethau. Bydd byrddau iechyd lleol, meddygfeydd ac awdurdodau lleol yn darparu gwybodaeth ar wasanaethau lleol sy’n cael eu heffeithio ac rwy'n annog pobl i gadw llygad ar eu gwefannau a chyfrifon cyfryngau cymdeithasol fel Twitter a Facebook am y newyddion diweddaraf.
"Gall pobl wneud gwahaniaeth drwy ddefnyddio ein gwasanaethau iechyd mewn ffordd synhwyrol. Yr unig adeg y dylech ffonio 999 neu fynd i'r uned damweiniau ac achosion brys yw ar gyfer salwch difrifol neu argyfwng gwirioneddol. Dilynwch y Gwasanaeth Ambiwlans ar Facebook a Twitter am y diweddaraf.
“Os ydych yn ansicr, edrychwch ar ein gwefan Dewis Doeth neu wefan Galw Iechyd Cymru i gael cyngor. Drwy wneud Dewis Doeth, gallwch chi a'ch teulu gael y driniaeth orau a bydd modd i wasanaethau prysur y Gwasanaeth Iechyd Gwladol helpu'r bobl sydd fwyaf eu hangen.
"Unwaith eto, hoffwn ddiolch o galon i staff y Gwasanaeth Iechyd a gwasanaethau gofal cymdeithasol am eu hymroddiad anhygoel a'u gwaith caled yn ystod y cyfnod heriol hwn. Rydyn ni eisoes yn clywed am staff yn mynd tu hwnt i'r disgwyl i sicrhau bod gwasanaethau yn parhau. Diolch i'w hymateb proffesiynol a chadarn, bydd mwyafrif llethol y cleifion yn parhau i dderbyn y gofal sydd ei angen arnynt yn ystod y tywydd difrifol hwn."