Mae cadw plant yn ddiogel ar-lein yn fater y mae'n rhaid i bob rhiant ei gymryd o ddifrif wrth i blant ifanc gael mwy a mwy o fynediad at y byd digidol.
I nodi Diwrnod Defnyddio’r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel, mae'r Gweinidog yn annog rhieni ledled Cymru i gymryd mwy o ddiddordeb yn yr hyn y mae eu plant yn ei wneud ar-lein, a chymryd camau i sicrhau nad oes modd iddynt weld na rhannu cynnwys amhriodol.
Daw rhybudd y Gweinidog wedi i ganlyniadau diweddaraf Arolwg Cenedlaethol Cymru, a gyhoeddwyd yn 2017, ddangos bod 95% o blant rhwng 7 a 15 oed yng Nghymru yn defnyddio'r rhyngrwyd yn y cartref, ond mai dim ond 56% o'r aelwydydd â phlant rhwng 7 a 15 oed oedd yn defnyddio mesurau rheolaeth gan rieni er mwyn atal cynnwys anaddas i blant neu anghyfreithlon.
Mae ffigurau diweddaraf y Gymdeithas Genedlaethol er Atal Creulondeb i Blant yn dangos bod yr heddlu'n cofnodi 15 achos o droseddau rhyw yn erbyn plant yn ymwneud â'r rhyngrwyd bob dydd ar gyfartaledd yng Nghymru a Lloegr, tra bod ffigurau Childline yn dangos bod traean o'r sesiynau sy'n ymwneud â chamdriniaeth ar-lein yn gysylltiedig â chamdriniaeth rywiol ar-lein, gyda'r ffigurau'n codi o flwyddyn i flwyddyn.
Mae'r Diwrnod Defnyddio'r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel yn ddiwrnod i godi ymwybyddiaeth byd-eang ynghylch diogelwch ar-lein a hyrwyddo arfer da. Mae'n gyfle i roi cyngor ac arweiniad ar y peryglon sy'n codi yn sgil technolegau newydd fel y cyfryngau cymdeithasol, a sut i'w defnyddio'n ddiogel.
Dywedodd y Gweinidog Gofal Cymdeithaso a Phlant, Huw Irranca-Davies:
"Blaenoriaeth pob rhiant yw diogelwch eu plant. Gan fod plant bellach yn defnyddio cynnwys ar-lein o oedran cynnar iawn, mae'n hanfodol i ni eu harfogi nhw â'r sgiliau a'r wybodaeth angenrheidiol i lywio'u ffordd drwy'r byd digidol mewn modd diogel a chyfrifol.
"Mae hyn yn arbennig o bwysig y dyddiau hyn, gan fod nifer o'n plant ieuengaf bellach â'u dyfeisiau symudol eu hunain. Er bod nifer o rieni'n prynu dyfeisiau symudol er mwyn cadw mewn cysylltiad â'u plant ac i wybod eu bod nhw'n ddiogel, mae modd iddyn nhw arwain at beryglon sylweddol. Mae nifer y plant sy'n cael eu cam-drin ar-lein yn achos pryder difrifol - ac mae'n rhywbeth rydyn ni fel Llywodraeth yn benderfynol o roi sylw iddo.
"Mae dyletswydd ar bob un ohonom ni i gadw'n plant yn ddiogel. Dyna'r brif flaenoriaeth i ni fel cymdeithas. Felly mae fy neges yn glir - er mwyn cadw'n plant yn ddiogel, rhaid i bob rhiant weithredu a gwneud mwy i sicrhau diogelwch eu plant ar-lein.
"Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo'n gadarn i hyrwyddo defnydd diogel a chadarnhaol o dechnoleg i'n plant a'n pobl ifanc. Ond rhaid i ni i gyd wneud yn siŵr ein bod ni'n chwarae'n rhan i sicrhau bod ein plant yn ddiogel."