Mae'r adroddiad yn argymell modelau gofal newydd, beiddgar gyda'r gwasanaethau wedi'u trefnu o amgylch yr unigolyn a'i deulu, mor agos â phosibl at y cartref.
Mae'r adroddiad newydd a gyhoeddwyd heddiw yn gwneud nifer o argymhellion ynghylch ffyrdd o helpu i newid y system ac yn egluro, yn ymarferol, sut i wynebu'r heriau a fydd yn codi i’r gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol dros y blynyddoedd nesaf.
Mae adroddiad y panel yn cynnwys gweledigaeth newydd ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru, gyda chamau gweithredu wedi’u harwain gan bedwar nod:
- gwella iechyd a llesiant y boblogaeth
- gwella profiadau ac ansawdd y gofal a roddir i unigolion a'u teuluoedd
- gwella llesiant ac ymgysylltiad y gweithlu
- cynyddu'r gwerth a geir o'r adnoddau sy'n cael eu buddsoddi mewn gwasanaethau.
Dywedodd Dr Ruth Hussey, Cadeirydd y panel adolygu:
"Rhaid i ni beidio â diystyru’r her sydd o'n blaen. Mae'n amlwg bod angen newid, ac yn amlycach fyth bod angen i hyn ddigwydd yn gyflym.
"Rydyn ni wedi gweld bod ysfa am newid, ac awydd i symud ymlaen. Mae angen ymrwymiad cryf i drawsnewid faint o waith sy'n cael ei wneud, beth sy'n cael ei wneud, a sut mae'n cael ei gyflawni.
"Gobeithio y bydd yr adroddiad hwn yn ysgogi'r camau gweithredu sydd eu hangen, ac yn helpu i roi arweiniad i ddyfodol iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru."
Dywedodd yr Ysgrifennydd Iechyd, Vaughan Gething:
"Mae'r adroddiad hwn, ymrwymiad pwysig yn Symud Cymru Ymlaen a Ffyniant i Bawb, yn gosod argymhellion clir ynghylch yr hyn sydd angen ei newid, a sut i wireddu’r newidiadau hynny er lles pobl Cymru.
"Rwy'n falch iawn o weld bod yr adroddiad yn awgrymu bod yr hyn sydd eisoes yn cael ei wneud yng Nghymru i integreiddio gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol ar y trywydd iawn, ond bydd angen i ni ystyried canfyddiadau'r adolygiad hwn yn ofalus i weld sut y gellid gwella yn y dyfodol.
"Bydd y cynllun tymor hir newydd ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn cael ei gyhoeddi yn y gwanwyn, gan ystyried argymhellion yr adroddiad hwn. Hoffwn i ddiolch i Dr Hussey, ei thîm a phawb sydd wedi cyfrannu. Rwy'n croesawu'r gefnogaeth drawsbleidiol barhaus ar gyfer yr adolygiad hwn.
"Rwy'n credu bod yr hyn a welwyd heddiw gan y panel yn mynd i osod seiliau cadarn ar gyfer dyfodol iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru am nifer o flynyddoedd i ddod."