Yn y Gemau OlympAGE bydd pobl hŷn a phobl anabl yn cystadlu mewn gweithgareddau tîm cystadleuol wedi'u hysbrydoli gan y Gemau Olympaidd yn Rio.
Bydd y Gweinidog Gofal Cymdeithasol, Huw Irranca-Davies yn bresennol i lansio'r gemau gan ddweud ei fod yn bwysig i bobl hŷn gadw'n iach a bod yn egnïol fel rhan o'r ymdrech i gynnal eu hannibyniaeth a lleihau arwahanrwydd cymdeithasol.
Yn y Gemau OlympAGE bydd pobl hŷn a phobl anabl yn cystadlu mewn gweithgareddau tîm cystadleuol wedi'u hysbrydoli gan y Gemau Olympaidd yn Rio.
Mae pobl hŷn a phobl anabl yn llai tebygol o gyrraedd y lefelau gweithgarwch corfforol sy'n cael eu hargymell o gymharu â'r boblogaeth yn gyffredinol.
Mae cysylltiad clir rhwng ymarfer corff a gwell iechyd a llesiant meddwl; a gall lefelau uwch o weithgarwch corfforol wella ansawdd a hyd bywyd.
Wrth siarad cyn y gemau, dywedodd y Gweinidog Gofal Cymdeithasol, Huw Irranca-Davies:
"Mae'n wych gweld digwyddiadau fel y gemau OlympAGE yn cael eu cynnal. Mae’n ffordd hwyl i hybu pobl hyn a phobl anabl i gadw’n actif.
"Yn ogystal â hyrwyddo iechyd corfforol gwell, mae'n helpu i wella lles meddyliol y rhai sy'n cystadlu â'u cefnogi i fod yn fwy gweithgar yn gymdeithasol. Mae hefyd yn dda gweld myfyrwyr o Goleg Pen-y-bont ar Ogwr yn helpu’r sawl sy’n cymryd rhan yn y gemau, gan ddod a chenhedloedd ynghyd.
"Felly fy neges i bobl hŷn ar draws Cymru yw hon - mentrwch gymryd rhan mewn gweithgareddau corfforol sy'n apelio atoch chi, a dangoswch i bobl nad ydych chi byth rhy hen i fynd amdani!"