Mae GIG Cymru yn rhoi diagnosis o ganser ac yn trin mwy nag erioed o gleifion â chanser o fewn yr amser targed.
Mae GIG Cymru yn rhoi diagnosis o ganser ac yn trin mwy nag erioed o gleifion â chanser o fewn yr amser targed. O’i gymharu â phum mlynedd yn ôl, cafodd 1,800 o bobl yn ychwanegol eu trin o fewn yr amser targed.
Er gwaethaf y ffaith bod y galw am wasanaethau canser yn codi ar gyfradd o tua 1.5% y flwyddyn, dengys y Datganiad Blynyddol bod perfformiad y gwasanaethau wedi parhau’n sefydlog dros y blynyddoedd diwethaf. Gwelwyd gwelliant mewn rhai meysydd.
Ar gyfer 2016/17, dengys y datganiad:
- bod 17,201 o bobl wedi dechrau triniaeth am ganser
- O’r rheini, cafodd 15,912 (93%) driniaeth o fewn yr amser targed. Mae hyn yn 1,705 (12%) yn fwy na phum mlynedd yn ôl (2011-12)
- Am y tro cyntaf, roedd mwy na 72% o bobl a gafodd ddiagnosis o ganser rhwng 2010 and 2014 yn byw am o leiaf un flwyddyn
- Yn ôl arolwg profiad cleifion canser Cymru, roedd 93% o’r ymatebwyr yn rhoi adborth cadarnhaol am eu gofal
- Neilltuwyd gweithwyr allweddol mewn 86% o achosion o’i gymharu â 66% yn 2013.
Wrth siarad cyn ei brif anerchiad yng Nghynhadledd Canser Cymru yng Nghaerdydd, dywedodd Vaughan Gething:
“Wrth i ddisgwyliad oes gynyddu, bydd mwy a mwy ohonom yn cael canser yn ystod ein bywyd.
“Canser yw’r afiechyd sy’n achosi’r mwyaf o farwolaethau cyn pryd yng Nghymru â’r DU. Rydym angen addysgu a chefnogi pobl i leihau’r risg o gael canser, drwy roi’r gorau i ysmygu, gwella deiets a gwneud mwy o ymarfer corff, yn ogystal â lleihau lefelau yfed niweidiol a chysylltiad â phelydrau uwchfioled. Ni ddylem anghofio ei bod yn bosibl rhwystro tua 4 achos o ganser o bob 10.
“Mae rhaid sicrhau bod y gwasanaethau ar gael i gefnogi a thrin pobl sy’n cael diagnosis o ganser. Byddwn yn parhau i fuddsoddi mewn gwasanaethau canser a chydweithio â’r GIG i wella ansawdd y gofal a'r canlyniadau i gleifion.
"Er mwyn cyflawni hyn, rydym wedi bod yn gweithio'n galed i sicrhau bod pob claf canser yn cael triniaeth amserol a phriodol. Mae hyn wedi golygu cryn dipyn o waith dros y blynyddoedd diwethaf a datblygu un llwybr canser newydd.
"Heddiw, hoffwn symud y ddadl ymlaen. Rwy’n disgwyl i bob Bwrdd Iechyd ddechrau adrodd yn ôl ar yr un llwybr newydd ar gyfer canser, yn ogystal â gwella perfformiad y ddau lwybr sydd eisoes yn bodoli.
“Bydd y llwybr newydd yn dechrau o’r adeg pan yr amheuir bod canser arnynt, i bob claf. Os bydd y llwybr newydd yn profi’n llwyddiant a bod hyder yn y ffaith ei fod yn well ffordd o fesur amseroedd aros ar gyfer canser, ein huchelgais wedyn yw rhoi’r un llwybr canser hwn ar waith yn lle’r ddau darged presennol o ran amseroedd aros. Byddwn yn gwrando’n astud ar gleifion a chlinigwyr cyn gwneud unrhyw newidiadau.
“Mae clinigwyr wedi arwain ar y cynigion ac maent wedi derbyn cefnogaeth ar draws y gymuned glinigol. Y gobaith yw y bydd y ffordd newydd hon o fesur amseroedd aros ar gyfer triniaeth am ganser, yn helpu cyrff y GIG i wella perfformiad, ansawdd ac effeithlonrwydd gwasanaethau canser.
“Mae’r adroddiad a’r datganiad am y llwybr newydd heddiw yn rhan o’n cynllun ehangach i wella gwasanaethau canser. Ein huchelgais gyffredinol yw cau'r bwlch mewn canlyniadau ’n cyfoedion rhyngwladol. I gyflawni hyn, rydym yn canolbwyntio cryn dipyn ar amseroedd aros, diwygio gwasanaethau a chanfod mwy o achosion o ganser yn gynt, sy’n eu gwneud yn haws i’w trin."