Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y bydd prawf mwy diogel a chywir amsyndrom Down yn cael ei gynnig yng Nghymru.
Mae’r Gweinidog Iechyd y Cyhoedd, Rebecca Evans wedi cadarnhau bod Llywodraeth Cymru wedi cytuno i gyflwyno'r prawf cynenedigol anfewnwthiol (NIPT) fel rhan o'r rhaglen sgrinio gynededigol yng Nghymru.
Bydd prawf NIPT, sef sampl o waed i'w ddadansoddi mewn labordy, yn cael ei ychwanegu at y llwybr sgrinio fel opsiwn ychwanegol i fenywod sy'n derbyn y sgrinio sylfaenol presennol ac sydd wedi cael gwybod bod yna risg o syndrom Down, Edwards neu Patau.
Mae'r rhaglen sgrinio gynenedigol bresennol yn cynnig nifer o wahanol brofion sgrinio sylfaenol i fenywod beichiog er mwyn canfod rhai o'r cyflyrau a allai effeithio ar y fam neu'r babi. Mae un o'r profion sgrinio hyn yn gallu dangos y posibilrwydd o gael babi sydd â syndrom Down. Os yw'r posibilrwydd yn cyfateb i 1 allan o 150 neu'n uwch, ystyrir bod yna fwy o risg, ond ar hyn o bryd yr unig opsiwn sy’n cael ei gynnig yw prawf mewnwthiol i gadarnhau'r diagnosis. Mae risg bach y gellid colli’r babi drwy gael y profion diagnostig mewnwthiol hyn.
Cynigir y prawf NIPT fel opsiwn ychwanegol at y profion mewnwthiol hyn, ac i'r menywod sy'n cael canlyniad negyddol, ni fydd angen unrhyw brofion pellach. Disgwylir y bydd un neu ddau o fabanod yng Nghymru yn cael eu hachub rhag cael eu colli o ganlyniad i gyflwyno'r prawf NIPT.
Bydd NIPT yn cael ei gyflwyno cyn gynted â phosibl yn ystod 2018. Mae gwaith eisoes yn mynd rhagddo gydag elusennau a gwledydd eraill y DU i ddatblygu hyfforddiant ar gyfer gweithwyr iechyd proffesiynol a gwybodaeth i gleifion, er mwyn sicrhau bod menywod yn cael y cymorth angenrheidiol i wneud penderfyniad cywir.
Dywedodd Gweinidog Iechyd y Cyhoedd, Rebecca Evans:
“Rydyn ni am sicrhau bod pob menyw feichiog yng Nghymru yn cael yr wybodaeth, y cyngor, a'r cymorth angenrheidiol drwy gydol ei beichiogrwydd. Mae ein rhaglen sgrinio gynenedigol yn chwarae rôl bwysig yn hyn.
“Mae Llywodraeth Cymru wedi derbyn argymhellion Pwyllgor Sgrinio Cenedlaethol y DU a Phwyllgor Sgrinio Cymru i gyflwyno Profion NIPT fel opsiwn ychwanegol i fenywod sydd â mwy o risg o syndrom Down, ac i ychwanegu sgrinio ar gyfer syndrom Edwards a Patau a sgrinio lle mae menywod yn disgwyl gefeilliaid hefyd fel rhan o'r llwybr sgrinio yng Nghymru.
“Mae NIPT yn fwy cywir na'r profion sylfaenol a ddefnyddir ar hyn o bryd. Bydd cael canlyniad NIPT negyddol yn rhoi'r sicrwydd y mae ei angen ar fenywod beichiog, heb angen prawf diagnostig mewnwthiol pellach – gan leihau'r posibilrwydd o niwed diangen a cholli babi a allai ddigwydd yn sgil defnyddio profion o'r fath.”
Bydd y rhaglen profion NIPT yn cael ei gwerthuso yn ystod y tair blynedd nesaf, yn unol â'r argymhellion a wnaed gan Bwyllgor Sgrinio Cenedlaethol y DU a Phwyllgor Sgrinio Cymru.