Cyhoeddodd yr Ysgrifennydd Iechyd Vaughan Gething ei fod yn neilltuo £1m ar gyfer gwella gwasanaethau Gofal Diwedd Oes yng Nghymru.
Bydd y cyllid hwn yn helpu i weithredu'r Cynllun Cyflawni ar gyfer Gofal Diwedd Oes 2017-2020 a gyhoeddwyd ym mis Mawrth eleni. Mae'r cynllun tair blynedd hwn yn disgrifio bwriad Llywodraeth Cymru i wella gwasanaethau i gleifion a'u teuluoedd ym mhob rhan o Gymru. Mae'n ymdrin â phob agwedd ar y gofal lliniarol a diwedd oes sy'n cael ei ddarparu gan wasanaethau gofal sylfaenol ac eilaidd, a hefyd gan y sector gwirfoddol.
Mae ansawdd y gofal a gynigir mewn ysbytai ac i'r rhai sydd am dreulio eu diwrnodau olaf gartref wedi bod yn gwella yng Nghymru ers cyhoeddi'r Cynllun Cyflawni cyntaf yn 2013.
Er mwyn sicrhau bod profiadau'r claf yn gwella'n barhaus, bydd y cyllid hwn yn helpu i dalu am weithgareddau megis rhoi hyfforddiant ychwanegol i weithwyr iechyd proffesiynol ar sut i gychwyn sgyrsiau anodd ynghylch Gofal Diwedd Oes gyda chleifion a'u teuluoedd.
Hefyd, fe'i defnyddir i ddatblygu system gofnodion electronig ar gyfer cynllunio gofal ymlaen llaw, er mwyn helpu i bennu blaenoriaethau ymchwil a darparu cymorth i'r clystyrau o feddygon teulu yng Nghymru.
Yn ogystal â hyn i gyd, bydd y cyllid yn helpu i roi ar waith ddulliau gweithredu sy'n sensitif i deimladau pobl ynghylch Gofal Diwedd Oes drwy brosiectau megis menter ‘Byw Nawr – Live Now’, sy'n cynnal gweithgareddau codi ymwybyddiaeth ac yn cynnig adnoddau ar-lein i annog pobl Cymru i fod yn fwy agored wrth drafod marw, marwolaeth, a phrofedigaeth.
Dywedodd Vaughan Gething, yr Ysgrifennydd Iechyd:
“Mae marw yn un o'r pethau hynny mewn bywyd sy'n siŵr o ddigwydd i bob un ohonom, ond oherwydd y gwelliannau mewn meddygaeth fodern, mae llawer o bobl sydd â salwch terfynol yn byw'n hirach. Mae felly'n hanfodol ein bod yn sicrhau bod y gofal lliniarol a diwedd oes gorau posibl ar gael ar hyd a lled Cymru.
“Mae'n dda gennyf allu rhoi'r £1m ychwanegol hwn i gefnogi'r Cynllun Cyflawni ar gyfer Gofal Diwedd Oes, rhywbeth sy'n dangos unwaith yn rhagor ein hymrwymiad i hyrwyddo agwedd agored a realistig tuag at farw ymysg pobl Cymru, er mwyn iddyn nhw allu cynllunio'n briodol ar ei gyfer.
“Rydyn ni am i bobl gael gorffen eu dyddiau mewn lle o'u dewis – boed hwnnw gartref, mewn ysbyty, neu mewn hosbis, ac rydyn ni hefyd yn awyddus iddyn nhw allu cael y gofal gorau posibl lle bynnag y byddan nhw'n byw ac yn marw, a waeth beth yw'r salwch neu'r anabledd sy'n achosi eu marwolaeth.”