Cafodd prosiect Doeth am Iechyd Cymru ei lansio yn 2016 i astudio iechyd a lles pobl Cymru ac i helpu'r gwasanaeth iechyd a'r gwasanaethau cymdeithasol i gynllunio ar gyfer y dyfodol.
Cafodd prosiect Doeth am Iechyd Cymru ei lansio yn 2016 i astudio iechyd a lles pobl Cymru ac i helpu'r gwasanaeth iechyd a'r gwasanaethau cymdeithasol i gynllunio ar gyfer y dyfodol. Mae'r astudiaeth, sy'n cael ei chefnogi gan Lywodraeth Cymru a'i harwain gan Brifysgolion Caerdydd ac Abertawe, yn gofyn i bobl ateb cwestiynau am eu hiechyd, eu ffordd o fyw a'u lles mewn arolwg 10 munud ar-lein, ac i wneud hynny bob chwe mis.
Gan adeiladu ar fomentwm yr ymgyrch wedi iddi gyrraedd y garreg filltir o gael 10,000 o bobl yn ymuno â hi, addawodd Clybiau Ffermwyr Ifanc o bob rhan o'r wlad ei chefnogi drwy annog eu haelodau i gymryd rhan yn yr astudiaeth er mwyn creu darlun cywir o iechyd yng Nghymru.
Dywedodd Alice Hammond, Bydwraig Uwchsain gyda Bwrdd Iechyd Addysgu Powys ac aelod o Glwb Ffermwyr Ifanc Maesyfed:
“Gan fy mod yn gweithio yn y gwasanaeth iechyd, dw i'n gwybod yn iawn pa mor hanfodol bwysig yw cael yr wybodaeth ddiweddaraf am brofiadau pobl o ran eu hiechyd a hefyd o ran ein gwasanaethau iechyd. Dw i wrth fy modd y bydd Ffederasiwn Ffermwyr Ifanc Cymru yn hyrwyddo'r astudiaeth bwysig hon a fydd yn ein helpu ni i gyd i gynllunio ar gyfer dyfodol iechyd a lles pobl Cymru.
“Gyda mwy na 5000 o aelodau ar draws 157 o Glybiau Ffermwyr Ifanc mewn 12 o ffederasiynau sir, mae Clybiau Ffermwyr Ifanc Cymru yn cynnig cyfle delfrydol i gysylltu â phobl ifanc ym mhob cwr o'r wlad a'u hannog i gymryd rhan.”
Dywedodd Prif Swyddog Meddygol Cymru, Dr Frank Atherton:
“Mae prosiect ymchwil Doeth am Iechyd Cymru yn brosiect uchelgeisiol, a dw i mor falch o weld bod pobl ifanc yn deall manteision yr astudiaeth hon a fydd mor arwyddocaol.
“Mae cael Clybiau Ffermwyr Ifanc Cymru yn dangos eu cefnogaeth heddiw yn hwb sylweddol ymlaen a fydd yn ein helpu i greu darlun cliriach ac i baratoi ar gyfer y dyfodol. Fodd bynnag, er bod yr astudiaeth wedi cyrraedd carreg filltir fawr o 10,000 o bobl, mae angen o hyd i gynifer o bobl â phosibl ymuno â hi os ydym am sicrhau ei llwyddiant.
“Dw i'n annog pawb dros 16 oed i dreulio deng munud yn rhoi gwybodaeth sylfaenol am eu hiechyd er mwyn creu dealltwriaeth a thriniaethau pwysig er budd cenedlaethau'r dyfodol.”
Dim ond blwyddyn sydd ers dechrau'r astudiaeth, ond mae eisoes wedi ymdrin â nifer o faterion iechyd pwysig, a chaiff arolygon newydd o iechyd deintyddol, iechyd meddwl a chyflyrau'r croen eu lansio yn y dyfodol agos.
I gael rhagor o wybodaeth, ac i gwblhau'r arolwg, ewch i: www.healthwisewales.gov.wales neu ffoniwch dîm Doeth am Iechyd Cymru ar 0800 917 2172 / 02920 768 090 rhwng 8.00am a 7.00pm, ddydd Llun i ddydd Gwener.