Mae iechyd y geg gwael ymhlith plant 5 oed yng Nghymru yn parhau i syrthio.
Yr adroddiad gan Iechyd Cyhoeddus Cymru yw'r arolwg deintyddol diweddaraf o blant pum mlwydd oed yng Nghymru, a chafodd ei gynnal gan Uned Gwybodaeth Iechyd Geneuol Cymru, fel rhan o raglen arolwg deintyddol y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG).
Mae'r adroddiad yn dangos:
- gostyngiad yng nghyfran y plant â phydredd dannedd rhwng 2007-08 (47.6%) a 2015-16 (34.2%). Mae hyn yn dangos bod y gyfran o blant nad oes ganddynt bydredd dannedd amlwg erbyn eu bod yn 5 mlwydd oed yn parhau i wella. Yn 2015-16 bydd 20 o blant mewn dosbarth o 30 heb gael unrhyw brofiad o bydredd dannedd. Mae hyn yn cymharu ag 16 o blant mewn dosbarth o 30 heb unrhyw bydredd dannedd yn 2007-08;
- mae profiad o bydredd dannedd cymedrig Cymru gyfan (dannedd wedi pydru a gollwyd ac a lenwyd - (dmft)) hefyd wedi parhau i syrthio o 1.98 yn 2007-08 i 1.22 yn 2015-16. Mae hyn yn ostyngiad o 38% yn y sgorau dmft cymedrig dros 9 mlynedd;
- yn 2007-08, byddai 14 o blant mewn dosbarth o 30 wedi cael profiad o bydredd, a byddai 4.2 dant wedi cael ei effeithio ar gyfartaledd. Erbyn 2015-16 roedd hwn wedi syrthio i 10 o blant mewn dosbarth o 30, sef cyfartaledd o 3.6 dant wedi pydru;
- mae lefelau clefydau deintyddol ymhlith plant yng Nghymru yn dal i wella ar draws bob grŵp cymdeithasol. Mewn termau absoliwt, y cwintel mwyaf difreintiedig sydd wedi gweld y gostyngiad mwyaf mewn achosion o bydredd dannedd (o 15%) ac o ran sgôr dmft gymedrig (o 0.6). Nid oes unrhyw dystiolaeth bod anghydraddoldeb yn cynyddu.
“Dw i'n falch o weld y cynnydd sy'n parhau i wella iechyd y geg ymhlith plant. Mae'n glir bod y rhaglen Cynllun Gwên yn gwneud gwahaniaeth go iawn i wella iechyd y geg ymhlith plant ledled Cymru ond rydyn ni'n gwybod bod angen inni barhau i wneud y gwelliannau hyn.
“Fel llywodraeth, rydyn ni wedi ymrwymo'n llawn i daclo pob math o anghydraddoldeb. Dw i'n arbennig o falch felly mai plant o'r cefndiroedd mwyaf difreintiedig sy’n gweld y gostyngiad mwyaf mewn pydredd dannedd.”
Dywedodd Dr Colette Bridgeman, Prif Swyddog Deintyddol Cymru:
“Er ein bod ni wedi gweld gwelliannau mawr o ran pydredd dannedd ymhlith plant blwyddyn ysgol 1 dros y degawd diwethaf, mae yna botensial i wella ymhellach ar gyfer y traean o blant sy'n dal i brofi pydredd dannedd.
“Rydyn ni'n gwybod bod pydredd dannedd yn dechrau'n gynnar. Fel arfer, bydd hanner y pydredd dannedd y mae plant yn ei brofi yn 5 oed i'w weld yn 3 oed. Bydd mwy o effaith yn dod o ymyrryd yn gyntaf cyn bod y plentyn yn 3 oed. Rydyn ni'n rhoi ffocws newydd felly i'r Cynllun Gwên ar y grŵp oedran 0-5 oed, er mwyn sicrhau bod plant yn parhau heb unrhyw bydredd dannedd yn 5 oed. Bydd hyn yn ein helpu i wneud y gwelliannau pellach sy’n angenrheidiol."