Dywedodd 93% o gleifion canser Cymru iddynt gael profiad cadarnhaol yn ystod eu triniaeth, yn ôl canlyniadau'r ail Arolwg o Brofiad Cleifion Canser yng Nghymru sy'n cael ei gyhoeddi heddiw.
Cynhaliwyd yr arolwg o fwy na 6,700 o gleifion canser ar ran Llywodraeth Cymru a Cymorth Canser Macmillan. Cafodd ei lunio i fesur a deall profiadau cleifion o ofal a thriniaeth canser yng Nghymru, er mwyn helpu i sicrhau gwelliannau ar lefel leol a chenedlaethol.
Roedd yr arolwg yn dangos lefelau uchel o foddhad â gofal canser ymysg cleifion Cymru'n gyffredinol, ynghyd â gwelliannau o ran dyraniad gweithwyr allweddol a phrofiad cleifion canser yr ysgyfaint.
Mae'r arolwg hwn wedi tynnu sylw at nifer o agweddau cadarnhaol o ofal canser yng Nghymru, gan gynnwys:
- 93% o'r ymatebwyr yn rhoi sgôr o 7/10 neu uwch i'w profiad yn gyffredinol;
- 97% o'r ymatebwyr a oedd wedi cael dewis o driniaethau yn dweud bod yr opsiynau wedi'u hesbonio iddynt;
- 90% o'r ymatebwyr yn dweud bod gweinyddiaeth gyffredinol eu gofal yn "dda" neu’n "dda iawn";
- 86% o'r ymatebwyr yn dweud iddynt gael enw a manylion cyswllt gweithiwr allweddol.
Bydd canfyddiadau'r arolwg yn helpu gyda'r ymdrechion parhaus i ddarparu gofal canser sy'n canolbwyntio ar y person fel rhan o'r Cynllun Cyflawni ar gyfer Canser yng Nghymru.
Gan groesawu'r arolwg, dywedodd yr Ysgrifennydd Iechyd, Vaughan Gething:
"Hoffwn ddiolch i'r dros 6,700 o unigolion a roddodd eu hamser i ymateb i'r arolwg. Diolch i'w hymdrechion nhw, gallwn ddechrau adeiladu darlun o wasanaethau canser yng Nghymru a rhoi manylion pwysig i fyrddau ac ymddiriedolaethau iechyd am ffyrdd y gallwn ni i gyd wneud yn well, boed yn llunwyr polisi neu'n ddarparwyr gwasanaethau uniongyrchol i'r rhai sy'n dioddef o ganser.
"Mae'r ffaith bod 93% o'r ymatebwyr wedi rhoi sgôr o saith neu fwy allan o ddeg am eu gofal yn brawf o ymrwymiad, medrusrwydd a chydymdeimlad y rhai sy'n darparu gofal canser. Mae hyn yn ardderchog, ac ni fyddai'n bosibl heb ansawdd ac ymrwymiad gweithwyr iechyd proffesiynol ledled Cymru.
"Er y byddai'n hawdd iawn canolbwyntio ar ganlyniadau cadarnhaol yr arolwg hwn yn unig - mae'n hanfodol i ni beidio ag anghofio'r meysydd lle gellid gwneud yn well. Ni fyddwn yn gorffwys nes i bob un o'r materion hynny gael sylw. Mae gennym gynllun canser newydd, rhwydwaith canser newydd ac ymrwymiad newydd i ofal canser sy'n canolbwyntio ar y person. Byddwn yn parhau i weithio gyda phartneriaid allweddol fel y gynghrair canser a'r rhwydwaith canser er mwyn cefnogi cynnydd yn y meysydd hyn."
Dywedodd Susan Morris, Pennaeth Gwasanaethau Cymorth Canser Macmillan yng Nghymru:
"Roedd Macmillan yn falch iawn o gynnal yr Arolwg o Brofiad Cleifion Canser yng Nghymru gyda Llywodraeth Cymru am yr ail waith gan fod hynny'n ffordd o ddysgu'n fanwl beth mae pobl sy'n dioddef o ganser yn ei feddwl am eu gofal.
"Roedd yr arolwg yn gofyn i bobl am eu profiadau o'r adeg pan oeddent yn dechrau amau bod ganddynt ganser drwy eu diagnosis, triniaeth, a diwedd eu gofal. Hoffem ddiolch i'r 6,714 o bobl a roddodd eu hamser i ateb cwestiynau am hyn.
"Mae Macmillan yn credu bod cael profiad da o ran gofal yr un mor bwysig â chael triniaeth feddygol ardderchog, ac mae'r canlyniadau hyn yn dangos beth sy'n gweithio'n dda o ran gofal canser yng Nghymru, a lle mae angen gwelliannau."