Mae ystadegau newydd sy'n cael eu cyhoeddi heddiw yn dangos bod y rhan fwyaf o bobl sy'n aros am driniaeth.
Mae'r ystadegau diweddaraf yn dangos:
- Cafodd 79.4% o alwadau am ambiwlans lle'r oedd bywyd yn y fantol ymateb o fewn 8 munud ym mis Mai 2017. Roedd hyn yn rhagori ar y targed o 65%, ac yn golygu bod y targed perfformiad wedi cael ei fodloni ar lefel uwch na 70% am 14 o fisoedd yn olynol. Mae canolrif yr amser ymateb ar gyfer y categori hwn o alwadau wedi parhau'n llai na 5 munud ers mis Awst 2016. Cafodd tua 50% o alwadau oren ymateb mewn tua 14 o funudau
- Ym mis Ebrill 2017, cafodd y targed perfformiad ar gyfer achosion o ganser nad ydynt yn rhai brys ei fodloni am y tro cyntaf ers mis Mai 2016 – gyda 624 o 635 o bobl (98.3%) yn cael eu gweld o fewn 31 o ddiwrnodau, sy'n rhagori ar y targed o 98%. Mae’r perfformiad ar gyfer achosion brys o ganser yn parhau ar ei orau ers mis Tachwedd 2014, gyda 502 o 562 o bobl yn cael eu gweld o fewn 62 o ddiwrnodau
- Mae'r perfformiad ar gyfer aros rhwng atgyfeirio a thriniaeth wedi aros yn sefydlog ers dechrau 2016. Ym mis Ebrill 2017, roedd 86.7% o lwybrau cleifion wedi bod yn aros llai na 26 o wythnosau i ddechrau triniaeth, y perfformiad gorau ym mis Ebrill ers 2014
- Mae nifer y bobl a oedd yn profi oedi wrth drosglwyddo gofal o'r ysbyty ym mis Mai 2017 yn parhau'n agos at y nifer isaf ar gofnod, er gwaethaf cynnydd yn y galw am wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol
- Mae’r ffigur ar gyfer nifer y bobl sy'n aros mwy nag 8 wythnos am brawf diagnostig ym mis Ebrill 2017 yr ail isaf ers mis Mawrth 2011, a'r ffigur isaf ym mis Ebrill ers Ebrill 2010
- Ym mis Mai 2017, treuliodd lai o gleifion 12 awr neu ragor mewn cyfleuster gofal mewn argyfwng, o'r amser cyrraedd hyd cael eu derbyn i'r ysbyty, neu eu trosglwyddo neu eu rhyddhau o'r ysbyty, o'i gymharu â mis Mai 2016
- Mae'r galw am wasanaethau'r GIG yn cynyddu ar draws pob gweithgarwch a mesur perfformiad sy’n cael eu monitro sydd wedi’u cynnwys yn yr adroddiad misol.
“Mae ein gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yn dal i weld cynnydd yn y galw – ond, er gwaethaf hynny, mae'r ystadegau a gafodd eu rhyddhau heddiw yn dangos bod y mwyafrif helaeth o bobl yn dal i gael eu gweld o fewn y targedau mynediad a thriniaeth.
“Rydyn ni'n cydnabod bod cynnydd yn y galw ac yn sylweddoli faint mae gwasanaethau yn eu costio, felly rydyn ni'n buddsoddi mwy nag erioed mewn iechyd a gwasanaethau cymdeithasol.
“Dw i am ddiolch i staff y GIG a gofal cymdeithasol am y gwaith diflino maen nhw'n ei wneud i gynnig gwasanaethau o'r radd flaenaf ym mhob cwr o'r wlad. Gyda'n gilydd, byddwn ni'n parhau i wneud popeth allwn ni i wella perfformiad fel bod pob claf yn cael gofal o ansawdd, yn brydlon.”