Yn dilyn trafodaethau gyda'r gwneuthurwyr Roche, mae'r Ysgrifennydd Iechyd, Vaughan Gething wedi cyhoeddi y bydd y cyffur canser y fron, Kadcyla® ar gael fel mater o drefn drwy GIG Cymru.
Mae Roche bellach wedi cytuno i'r un telerau mynediad masnachol i GIG Cymru â GIG Lloegr. Golyga hyn y bydd modd i gleifion o Gymru sydd â rhai mathau o ganser datblygedig y fron fanteisio ar y driniaeth.
Lluniwyd Cronfa Triniaethau Newydd gwerth £80 miliwn Llywodraeth Cymru er mwyn sicrhau bod meddyginiaethau newydd fel Kadcyla® ar gael cyn gynted â phosib, ac yn sicr o fewn deufis i argymhelliad NICE.
Dywedodd Yr Ysgrifennydd Iechyd, Vaughan Gething:
"Rwy'n falch iawn o fedru cyhoeddi bod Kadcyla® wedi'i gymeradwyo i'w ddefnyddio yng Nghymru, yn dilyn trafodaethau gyda'r gwneuthurwyr.
“Rydyn ni wedi ymrwymo i wella'r ffordd y mae triniaethau arloesol, sy'n seiliedig ar dystiolaeth, yn cael eu cyflwyno i'r gwasanaeth iechyd. Dyna'r rheswm dros gyflwyno cronfa triniaethau newydd gwerth £80 miliwn yng Nghymru. Bydd y gronfa'n cael ei defnyddio i sicrhau bod cleifion yn cael mynediad at y cyffur arloesol hwn sy'n ymestyn bywydau."