Cyn i Gêm Derfynol Cynghrair Pencampwyr Menywod UEFA gael ei chynnal heno, mae Gweinidogion wedi dweud bod ganddi'r gallu i ysbrydoli menywod a merched o Gymru
Bydd deiliaid y cwpan, Lyon, yn wynebu Paris Saint-Germain yn Stadiwm Dinas Caerdydd am 19:45. Mae'r gêm yn cael ei chynnal yn yr un ddinas â gêm derfynol y dynion, sy'n golygu bod Caerdydd wedi'i gweddnewid yn ganolfan sy’n rhoi cryn fri ar chwaraeon. Bydd Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, a Gweinidog Iechyd y Cyhoedd, Rebecca Evans, yn ymuno â'r llu o gefnogwyr y disgwylir iddynt fynd i'r gêm.
Dywedodd y Prif Weinidog, Carwyn Jones:
Dywedodd Gweinidog Iechyd y Cyhoedd, Rebecca Evans, sy'n gyfrifol am chwaraeon ar lawr gwlad:“Mae Caerdydd a Chymru gyfan yn llawn cyffro wrth inni ddechrau ar ddathliadau Cynghrair Pencampwyr UEFA. Mae cefnogwyr o bedwar ban byd i'w gweld yn y ddinas yn barod, ac mae Sbaeneg, Eidaleg a Ffrangeg i'w clywed ar y strydoedd.
"Heddiw, bydd Gêm Derfynol Cynghrair Pencampwyr Menywod UEFA yn hoelio sylw'r byd ar bêl-droed menywod. Mae gan y digwyddiad gwych hwn y gallu i ysbrydoli menywod a merched o Gymru ac o bedwar ban byd i gymryd rhan mewn chwaraeon, yn enwedig pêl-droed.”
"Mae rhyw 40,000 o fenywod a merched ledled Cymru yn chwarae pêl-droed yn rheolaidd. Mae denu rhagor o fenywod a merched i gymryd rhan mewn chwaraeon yn parhau'n un o'n prif flaenoriaethau, ac mae Ymddiriedolaeth Cymdeithas Pêl-droed Cymru am gynyddu'r niferoedd sy'n chwarae pêl-droed i 100,000 erbyn 2024. Mae Gêm Derfynol Cynghrair Pencampwyr Menywod UEFA yn gyfle gwych i hoelio sylw ar bêl-droed menywod a bydd yn ein helpu i wireddu'r uchelgais honno".
Bydd Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon, Vaughan Gething, hefyd yn rhoi cymeradwyaeth i'r 1,500 o fenywod a merched o bob cwr o Gymru a fydd yn cymryd rhan yng Ngŵyl Pêl-droed Genedlaethol Cymdeithas Pêl-droed Cymru i Fenywod a Merched. Bydd yn cael ei chynnal ym Meysydd Chwarae Prifysgol Caerdydd yn Llanrhymni ac mae'n rhan o Raglen Cymdeithas Pêl-droed Cymru i Ymgysylltu â'r Gymuned.
Bydd y digwyddiad hwn yn cael ei gynnal bob blwyddyn a bydd timau o bob cwr o Gymru yn cystadlu o dan 8, 10, 12, 14, 16 ac mewn grwpiau oedran hŷn. Bydd pawb a fydd yn cymryd rhan ynddo eleni yn cael dau docyn rhad ac am ddim i wylio Gêm Derfynol Cynghrair Pencampwyr Menywod UEFA.