Mae ymgyrch newydd o bwys sy'n hyrwyddo Cymru fel gwlad ddelfrydol i nyrsys hyfforddi, gweithio a byw ynddi wedi cael ei lansio.
Mae'r ymgyrch yn dechrau wrth i'r Ysgrifennydd Iechyd Vaughan Gething gyhoeddi y bydd cynllun Bwrsari'r GIG ar gyfer myfyrwyr, nyrsys, bydwragedd a gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd yn parhau i fod ar gael yng Nghymru yn 2017/18.
Caiff y bwrsari ei roi ar yr amod bod unigolion yn ymrwymo ymlaen llaw i weithio yng Nghymru am gyfnod o ddwy flynedd ar ôl cymhwyso.
Cyfarfu'r Ysgrifennydd Iechyd â grŵp o nyrsys cofrestredig heddiw ym Mharc Iechyd Prifysgol Keir Hardie i siarad am eu profiadau o weithio yng Nghymru.
Mae'r ymgyrch recriwtio’n rhan o ymrwymiad Llywodraeth Cymru i gymryd camau i ddenu a hyfforddi mwy o nyrsys, Ymarferwyr Cyffredinol a gweithwyr iechyd proffesiynol eraill ledled Cymru. Mae'n dilyn yr ymgyrch recriwtio lwyddiannus yn ddiweddar i recriwtio ymarferwyr cyffredinol, lle cafwyd cynnydd o 16% yn y lleoedd hyfforddi ar gyfer ymarferwyr cyffredinol a gafodd eu llenwi.
Bydd yr ymgyrch ryngwladol yn targedu nyrsys sydd newydd gymhwyso a nyrsys cofrestredig profiadol, yn ogystal â'r rhai sydd o bosibl yn ystyried dychwelyd i'r proffesiwn. Bydd yr ymgyrch Hyfforddi, Gweithio, Byw yn cael ei chynrychioli yng Nghyngres RCN yn Lerpwl o Fai 13-17.
Fe'i cefnogir gydag un cyswllt ffôn ar gyfer ymholiadau ac ar-lein trwy wefan HyfforddiGweithioByw. Gall pobl sydd â diddordeb mewn gweithio yng Nghymru ffonio: 01443 848 576 i gael rhagor o fanylion.
Dywedodd yr Ysgrifennydd Iechyd, Vaughan Gething:
“Yng Nghymru, rydyn ni wedi ymrwymo i gefnogi hyfforddiant a datblygiad nyrsys, bydwragedd, a gweithwyr proffesiynol eraill sy'n gweithio yn y GIG.
“Gallwn gynnig trefniadau gweithio hyblyg a chymorth i nyrsys a ni yw'r wlad gyntaf yn Ewrop i gyflwyno cyfraith ar lefelau staffio nyrsys.
“Mae Cymru'n wlad ddelfrydol i hyfforddi, gweithio a byw ynddi; rydyn ni’n rhoi gwerth mawr ar farn broffesiynol nyrsys ac rydyn ni am gyfleu'r neges honno er mwyn denu mwy o nyrsys i ddod i gael blas ar yr hyn sydd gennym i'w gynnig.
“Rwy'n falch o gyhoeddi y bydd y bydd y bwrsari ar gael i'r rhai sy'n ymrwymo ymlaen llaw i weithio yng Nghymru, ar ôl cymhwyso, am ddwy flynedd.
Rydyn ni'n cymryd camau cadarnhaol i ddenu rhagor o weithwyr proffesiynol ledled y wlad ac mae buddsoddi mewn addysg a hyfforddiant yn allweddol i ddatblygu ein gweithlu.”
Dywedodd Yr Athro Jean White:
“Mae Llywodraeth Cymru wedi cynyddu buddsoddiad yn addysg nyrsys yn sylweddol gyda mwy o nyrsys yn cael eu haddysgu bod blwyddyn yn awr nag ar unrhyw adeg ers datganoli”
Mae cyfleoedd i ddysgu yn y gwaith gyda datblygiad proffesiynol parhaus sy'n cefnogi gofynion o ran ailddilysu nyrsys.
“Rydyn ni wedi ymrwymo i fuddsoddi mewn addysg, yn y lefelau staffio cywir, ac yn natblygiad proffesiynol ein nyrsys. Mae gan Gymru lawer i'w gynnig, o'n harfordir gwych a'n mynyddoedd, i'n trefi a'n dinasoedd, ac rwyf am annog nyrsys i ystyried Cymru fel lle i hyfforddi, gweithio a byw ynddo.”