Mae’r Prif Swyddog Nyrsio, yr Athro Jean White wedi lansio model newydd o oruchwyliaeth glinigol i fydwragedd yng Nghymru.
Mewn digwyddiad arbennig yn y Senedd ym Mae Caerdydd, cyhoeddodd y Prif Swyddog Nyrsio y penderfyniad i gyflwyno model newydd o oruchwyliaeth glinigol o dan arweiniad y cyflogwr ar gyfer bydwragedd yng Nghymru.
Bydd y model newydd yn disodli’r hen drefn o oruchwyliaeth statudol a oedd yn cael ei chynnal gan Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru a’r Awdurdod Goruchwylio Lleol.
O dan y model newydd, bydd goruchwylwyr clinigol yn gweithio’n amser llawn yn y byrddau iechyd, gan neilltuo amser penodol i gefnogi bydwragedd, cynyddu eu hamlygrwydd a hwyluso mynediad at eu gwasanaethau. Bydd hyn o ganlyniad yn helpu i wella profiadau menywod wrth roi genedigaeth.
Daw’r newid o ganlyniad i ymchwiliadau i wasanaethau mamolaeth yn Ymddiriedolaeth Sefydledig y GIG Morecambe Bay a phenderfyniad yr Ombwdsmon Iechyd a Seneddol y dylid gwahanu’r gwaith o oruchwylio a rheoleiddio bydwragedd.
Dywedodd yr Athro White:
“Ry’n ni’n disgwyl i wasanaeth iechyd Cymru ddarparu gwasanaethau mamolaeth sy’n canolbwyntio ar anghenion y fam a’i theulu fel bod beichiogrwydd a rhoi genedigaeth yn brofiad diogel a chadarnhaol lle mae’r fenyw yn cael ei thrin gyda pharch ac urddas.
“Bydd cael goruchwylwyr clinigol i fydwragedd yn helpu i sicrhau gwasanaeth diogel o ansawdd uchel, sy’n gwella canlyniadau i fenywod a’u teuluoedd. Bydd y model newydd hefyd yn cefnogi bydwragedd ac yn eu galluogi i helpu menywod i wneud penderfyniadau am eu gofal mamolaeth.”