Heddiw, mae'r Ysgrifennydd Iechyd Vaughan Gething wedi cyhoeddi strategaeth newydd sy'n galluogi Cymru i arwain y ffordd i weddill y byd o ran datblygu gwasanaethau meddygol ar gyfer y dyfodol.
Mae'r Strategaeth Genomeg ar gyfer Meddygaeth Fanwl, sy'n cael cymorth £6.8m gan Lywodraeth Cymru, yn egluro sut y gall Cymru elwa yn sgil manteision iechyd ac economaidd genomeg.
Bydd technolegau geneteg a genomeg newydd yn caniatáu i wyddonwyr a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol ddeall yn fanwl y cysylltiadau rhwng ein genynnau a'n hiechyd.
Yn y blynyddoedd diwethaf, mae wedi cael ei gydnabod yn rhyngwladol fod gan y technolegau hyn y potensial i chwyldroi meddygaeth ac iechyd y cyhoedd.
Bydd y Strategaeth yn helpu i ddatblygu gwasanaethau a thechnolegau newydd a fydd yn arwain at well diagnosis a thriniaeth ar gyfer salwch cymhleth, gan gynnwys canser, clefyd y galon a chlefydau prin. Bydd cleifion yn elwa yn sgil gwell diagnosteg, amseroedd aros byrrach a gwell triniaethau.
Dywedodd yr Ysgrifennydd Iechyd Vaughan Gething:
"Bydd y strategaeth yn allweddol er mwyn datblygu gwasanaeth iechyd modern lle'r ydym yn buddsoddi mewn iechyd, ymchwil ac addysg. Roedd hyn yn un o flaenoriaethau ein rhaglen lywodraethu, Symud Cymru Ymlaen.
"Rydyn ni'n darparu'r arweinyddiaeth a'r cyllid sydd ei angen i greu swyddi medrus a gwneud cynnydd ym meysydd ymchwil a datblygu. Bydd hefyd yn ein helpu i ddatblygu sgiliau ac arbenigedd y gweithlu, a bydd hynny'n helpu i wneud Cymru'n fwy deniadol i academyddion rhyngwladol fel lle i weithio a byw ynddo.
"Bydd ein strategaeth genomeg yn helpu i greu gwell cysylltiadau rhyngwladol yn y byd academaidd a'r byd busnes, yn ogystal â gwell gwasanaethau geneteg ac iechyd y cyhoedd a ddarperir gan y gwasanaeth iechyd yng Nghymru."
Mae’r Strategaeth Genomeg ar gyfer Meddygaeth Fanwl yn amlinellu camau gweithredu allweddol fel rhan o gynllun 5-10 mlynedd. Cafodd ei datblygu gan dasglu genomeg o dan arweiniad Llywodraeth Cymru. Mae’r tasglu’n gweithio ar y cyd â rhanddeiliaid allweddol sy’n cynrychioli’r byd academaidd, diwydiant, y trydydd sector, y GIG a’r cyhoedd.
Mae’r ymgynghoriad ar y Strategaeth Genomeg ar gyfer Meddygaeth (dolen allanol) Fanwl ar agor, a bydd yn parhau ar agor hyd at 24 Mai 2017.