Ddeng mlynedd ers i’r gwaharddiad allweddol ar smygu yng Nghymru ddod i rym mae’r Gweinidog Iechyd y cyhoedd, Rebecca Evans, wedi dweud bod y gwaharddiad yn llwyddiant mawr o ran iechyd y cyhoedd.
Mae canran yr oedolion sy'n smygu bellach ar ei hisaf erioed. Dangosodd Arolwg Iechyd Cymru 2015 fod 19% o oedolion yn smygu, gostyngiad sylweddol o 25% yn 2005/6. Mae hyn yn rhagori ar darged Llywodraeth Cymru o leihau cyfraddau smygu i 20% erbyn 2016.
Nododd y Gweinidog yr achlysur trwy ymweld ag Ysgol Gynradd Malpas Court yng Nghasnewydd. Yn ddiweddar mae'r ysgol wedi ennill y Wobr Ansawdd Genedlaethol fel rhan o Gynlluniau Ysgolion Iach - Rhwydwaith Cymru (WNHSS) a hi yw’r 130ain ysgol yng Nghymru i wneud hynny. Mae defnyddio tybaco yn un o'r pynciau a gynhwysir o dan y cynllun. Siaradodd disgyblion â’r Gweinidog am smygu a rhannu eu syniadau am yr hyn y mae Cymru ddi-fwg yn ei olygu iddynt.
Dywedodd Clare Harvey, Cydgysylltydd Iechyd a Llesiant yn Ysgol Gynradd Malpas Court: "Fel ysgol ddi-fwg, rydyn ni’n darparu amgylchedd sy'n diogelu ac yn hyrwyddo iechyd a llesiant y gymuned ysgol gyfan. Drwy ein cwricwlwm ABCh mae disgyblion yn dysgu sut mae smygu yn gaethiwus, yn ddrud a sut y gallai gael effaith andwyol ar eu hiechyd. Fel ysgol iach, rydyn ni’n buddsoddi yn addysg ein disgyblion am faterion o'r fath, sy'n eu hamddiffyn nhw a hefyd genedlaethau'r dyfodol. Rydyn ni’n falch o fod yn un o nifer bach o ysgolion yng Nghasnewydd i ennill Gwobr Ansawdd Genedlaethol Ysgolion Iach ac rydyn ni’n annog ein disgyblion i groesawu hyn ym mywyd beunyddiol yr ysgol."
I helpu i barhau â’r llwyddiant hwn, mae’r Gweinidog wedi cyhoeddi cyllid o £417,000 dros dair blynedd i ASH Cymru, y sefydliad arweiniol yn y trydydd sector sy’n gweithio dros Gymru ddi-fwg. Bydd y cyllid yn cyfrannu at gyflwyno Cynllun Gweithredu Llywodraeth Cymru ar Reoli Tybaco, sy'n anelu at leihau 16% ar nifer yr achosion o smygu ymhlith oedolion erbyn 2020.
Dywedodd Prif Weithredwr y grŵp sy’n ymgyrchu o blaid rheoli tybaco sef ASH Cymru, Suzanne Cass: "Mae’r gwaharddiad ar smygu yn un o'r camau pwysicaf y mae ein gwlad wedi eu cymryd i amddiffyn ein hiechyd. Ers i’r gwaharddiad ddod i rym yn 2007, rydyn ni wedi gweld newid anhygoel mewn agweddau tuag at smygu sydd wedi golygu bod 5% yn llai o bobl a 94,000 yn llai o oedolion yn dal i smygu.
"Diolch i gyllid anhygoel hwn gan Lywodraeth Cymru, gallwn barhau i gydweithio i gefnogi’r 19% o’r rhai sy’n dal yn gaeth i dybaco i ddewis bywyd di-fwg ac i fyw bywyd iachach, hapusach iddynt hwy eu hunain a'u teuluoedd."
Dywedodd y Gweinidog: "Mae’r gwaharddiad ar smygu mewn mannau cyhoeddus dan do wedi bod yn llwyddiant ysgubol. Mae canran yr oedolion sy'n smygu bellach ar ei hisaf erioed. Bydd hyn yn gwella iechyd a disgwyliad oes pobl, a bydd yn lleihau'r pwysau ar y GIG.
"Mae’n golygu hefyd fod cenedlaethau'r dyfodol yn cael eu hamddiffyn rhag effeithiau smygu, ac na fyddant, wrth dyfu i fyny, yn ystyried smygu’n weithgaredd arferol.
"Rydyn ni’n parhau â’n hymdrechion i helpu smygwyr i roi'r gorau i’r arfer trwy dynnu eu sylw at wasanaethau am ddim yn y GIG i’w helpu i wneud hynny. Os caiff Bil Iechyd y Cyhoedd ei basio bydd yn gwahardd smygu mewn meysydd chwarae, ysgolion a thiroedd ysbytai, i barhau â’r newid hynod mewn diwylliant rydyn ni wedi’i weld mewn perthynas â smygu yng Nghymru yn y blynyddoedd diwethaf. Rwyf am i bawb yng Nghymru 'Ddewis Di-fwg'."