Mae rhaglen frechu newydd yn erbyn y Feirws Papiloma Dynol (HPV) wedi cael ei chyflwyno ym mhob cwr o Gymru ar gyfer dynion sy'n cael rhyw â dynion.
Ers 1 Ebrill, mae brechlyn y feirws papiloma dynol yn cael ei gynnig i bob dyn sy'n cael rhyw â dynion, sy'n 45 oed neu'n iau ac sy'n mynd i glinig iechyd rhywiol.
Daw i rym yn sgil argymhellion y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu sy'n rhoi cyngor annibynnol ac arbenigol i lywodraethau ledled y DU. Eu cyngor nhw oedd cyflwyno rhaglen benodol o'r fath hon.
Gall heintiau HPV sy'n para am gyfnod hir arwain at rai mathau o ganser neu ddefaid gwenerol ac mae'r brechlyn yn effeithiol iawn wrth leihau'r peryglon hyn.
Dywedodd y Gweinidog Iechyd y Cyhoedd, Rebecca Evans:
"Mae rhaglen frechu HPV i ferched ysgol wedi bod ar waith ers 2008. Drwy frechu'r rhan fwyaf o ferched yn y DU, mae hefyd yn amddiffyn y dynion hynny a fydd yn bartneriaid iddyn nhw yn y dyfodol i ryw raddau. Fodd bynnag, ni fydd bechgyn sy'n tyfu'n ddynion sy'n cael rhyw â dynion yn gallu elwa ar yr un amddiffyniad.
"Dw i'n falch bod y rhaglen frechu HPV newydd hon sy'n benodol ar gyfer dynion hoyw 45 oed neu’n iau wedi cael ei chyflwyno ledled Cymru. Bydd dynion hoyw sy'n mynd i'r clinigau ar gyfer gwasanaethau iechyd rhywiol bellach yn cael cynnig y brechlyn."
Bydd y brechlyn hefyd yn cael ei gynnig fesul achos i unigolion sy'n cael eu hystyried o fod mewn perygl. Bydd hyn yn cynnwys dynion sy'n cael rhyw â dynion ac sy'n hŷn na 45 oed, dynion a menywod trawsryweddol, gweithwyr rhyw a dynion a menywod HIV positif.