Mae'r Ysgrifennydd Iechyd, Vaughan Gething wedi nodi dengmlwyddiant presgripsiynau am ddim yng Nghymru heddiw.
Mae meddyginiaeth drwy bresgripsiwn wedi bod am ddim yng Nghymru ers 1 Ebrill 2007. Mae'r holl gleifion sydd wedi cofrestru gyda meddygon teulu yng Nghymru ac sy'n cael eu presgripsiwn gan fferyllydd yng Nghymru yn elwa o hyn.
Nid meddygon teulu yw’r unig arbenigwyr clinigol ar y rheng flaen sy'n gallu rhoi presgripsiwn am feddyginiaeth. Mae’r gweithwyr iechyd sy’n gallu eu rhoi yn cynnwys fferyllwyr a nyrsys, ac mae'r presgripsiynau hynny am ddim hefyd.
Penderfynwyd cael gwared â thâl am bresgripsiynau yn sgil tystiolaeth oedd yn dangos bod rhai unigolion oedd yn dioddef o gyflyrau cronig difrifol fel pwysau gwaed uchel neu glefyd y galon yn methu â fforddio'r presgripsiynau ac yn dewis gwrthod rhannau o'r presgripsiwn er mwyn lleihau'r gost.
Dywedodd yr Ysgrifennydd Iechyd, Vaughan Gething:
"Cafodd presgripsiynau am ddim eu cyflwyno yng Nghymru yn 2007 fel buddsoddiad hirdymor i wella iechyd y bobl.
"Ni oedd y cyntaf o bedair gwlad y Deyrnas Unedig i gyflwyno presgripsiynau am ddim a dw i'n falch iawn bod yr Alban a Gogledd Iwerddon wedi dewis ein dilyn.
"Ry'n ni'n credu'n gryf bod rhoi'r feddyginiaeth y mae pobl ei hangen iddyn nhw yn eu helpu i'w cadw'n iach ac allan o'r ysbyty. Mae hyn yn ei dro yn lleihau'r gost i'r gwasanaeth iechyd yn y pen draw. Ddylai pobl sy'n dioddef o gyflyrau difrifol ddim bod mewn sefyllfa lle na allan nhw fforddio cael eu presgripsiwn.
"Yn ogystal â gwella iechyd a lles yr unigolion eu hunain, mae sicrhau bod gan y cleifion y feddyginiaeth y maen nhw ei hangen hefyd o fantais i'r gwasanaeth iechyd yn gyfan gan ysgafnhau llwyth gwaith y meddygon teulu a lleihau’r nifer sy’n mynd i’r ysbyty."
"Mae codi tâl ar bobl sy'n dioddef o gyflyrau difrifol am y feddyginiaeth maen nhw ei hangen yn anghyfrifol o safbwynt cymdeithasol. Mae rhoi presgripsiynau am ddim yn flaengar ac yn rhan annatod o'n gwasanaethau iechyd yma yng Nghymru."