Mae lefel pydredd dannedd ymhlith plant pum mlwydd oed yng Nghymru wedi gostwng 12% ers 2008, diolch i lwyddiant rhaglen gwella iechyd y geg, sef y Cynllun Gwên.
Ers i'r Cynllun Gwên gael ei lansio yn 2008, mae lefelau pydredd dannedd ymhlith plant pum mlwydd oed yng Nghymru wedi gostwng yn raddol ac mae'r rhaglen wedi annog bron 95,000 o blant i frwsio'u dannedd yn rheolaidd.
Yn dilyn y llwyddiant hwn, bydd y Cynllun Gwên yn newid ei ffocws i dargedu plant o dan bum mlwydd oed. Mae ymchwil wedi dangos bod pydredd dannedd yn aml yn dechrau'n gynnar, felly ymyrryd yn gynnar fydd yn cael yr effaith fwyaf. Bydd ffocws newydd gweithgareddau'r Cynllun Gwên felly yn symud tuag at y grŵp oedran iau hwn, gyda'r bwriad o sicrhau bod cyn lleied o blant â phosibl yn dioddef o bydredd dannedd erbyn eu bod yn bum mlwydd oed.
Dywedodd y Prif Swyddog Deintyddol, Colette Bridgman:
"Bydd newid ffocws y rhaglen yn annog pawb sy'n gweithio gyda phlant o dan bum mlwydd oed i helpu i wella iechyd y geg. Mae'n bwysig bod pob plentyn ifanc yng Nghymru yn cael cymorth i frwsio'u dannedd gyda phast dannedd fflworid amser gwely, ac ar un achlysur arall bob dydd. Bydd peidio ag yfed na bwyta unrhyw beth melys awr cyn mynd i'r gwely hefyd yn helpu i ddiogelu eu dannedd rhag pydru."
Wrth siarad yn symposiwm y Cynllun Gwên yng Nghaerdydd heddiw, dywedodd Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Rebecca Evans:
"Rwy'n falch iawn o weld llwyddiant y Cynllun Gwên o ran gwella iechyd deintyddol plant yng Nghymru ac rwy' am ddiolch i bawb fu'n rhan o'r rhaglen am eu gwaith caled a'u hymrwymiad.
"Rydyn ni bellach yn gwybod ei bod yn bwysig dechrau â phlant ieuengach er mwyn gwella iechyd deintyddol ymhellach, fel bod modd atal pydredd dannedd cyn iddo ddod yn broblem. Dyma pam ein bod yn newid ffocws y rhaglen i dargedu plant o dan bum mlwydd oed."