Mae Llywodraeth Cymru a Chwaraeon Anabledd Cymru yn cyfrannu £10,000 o gyllid i alluogi tîm o Gymru i gystadlu yng Ngemau Olympaidd Arbennig Prydain Fawr yn Sheffield yr haf hwn.
Bydd y Gemau yn cael eu cynnal rhwng 7 a 12 Awst a hwn fydd y digwyddiad ag amrywiol fathau o chwaraeon mwyaf ym Mhrydain ar gyfer athletwyr ag anableddau deallusol. Bydd y cyllid yn helpu tuag at gostau anfon tîm o Gymru i gystadlu yn y Gemau.
Mae Gemau Olympaidd Arbennig Prydain yn cael eu cynnal bob pedair blynedd ac maent yn rhoi cyfle i blant ac oedolion gystadlu ar lefel genedlaethol. Bydd tua 2,600 o athletwyr yn dod at ei gilydd o bob cwr o Brydain i gystadlu mewn 19 o wahanol gampau.
Dywedodd Rebecca Evans, Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cyhoeddus:
“Dw i’n falch o allu rhoi’r arian hwn, a fydd yn golygu y bydd tua 200 o athletwyr o Gymru yn gallu cystadlu yn y Gemau Olympaidd Arbennig. Gall unigolion elwa’n fawr o gael eu hyfforddi ar gyfer digwyddiad fel hwn, ac o gymryd rhan – mae’n gyfle sy’n gwella iechyd a lles a hefyd yn rhoi mwy o hunanhyder i unigolion.”
Dywedodd Ken Skates, Ysgrifennydd yr Economi:
“Mae’n hanfodol bod Cymru yn cael ei chynrychioli mewn Gemau Prydeinig fel y rhain, i adeiladu ar ein hanes llewyrchus ym myd y campau a’r buddugoliaethau sydd wedi dod i’n rhan yn ddiweddar. Dw i wrth fy modd fod arian Llywodraeth Cymru wedi sicrhau bod yna gynrychiolaeth dda iawn o Gymru a dw i’n edrych ymlaen at ein gweld ni’n chwarae rhan amlwg mewn Gemau llwyddiannus.”
Dywedodd Pippa Britton, Cadeirydd Chwaraeon Anabledd Cymru:
“Dw i wrth fy modd bod Chwaraeon Anabledd Cymru unwaith eto yn gallu cefnogi Tîm Cymru’r Gemau Olympaidd Arbennig i fynd i’r Gemau. Mae’r digwyddiad hwn yn foment tyngedfennol i’r holl athletwyr, a fydd yn rhoi cyfle iddynt gystadlu a meithrin cysylltiadau â chystadleuwyr o bob cwr o’r Deyrnas Unedig.
“Rydyn ni falch iawn o ymdrechion y Tîm a does dim amheuaeth y byddan nhw’n cynrychioli Cymru gyda chlod arbennig pan fyddan nhw’n cystadlu yn hwyrach yn ystod yr haf.
“Rydyn ni am ddymuno pob lwc iddyn nhw i gyd.”
Dywedodd Jeff Savory, Cadeirydd a Phennaeth y Ddirprwyaeth o Gymru i’r Gemau Olympaidd Arbennig:
“Hoffem ddiolch i Chwaraeon Anabledd Cymru a Llywodraeth Cymru am eu cefnogaeth i Dîm Cymru'r Gemau Olympaidd Arbennig. Mae Gemau Olympaidd Arbennig yr Haf Prydain Fawr yn ddigwyddiad blaenllaw yn y cylch 4 blynedd o Gemau Olympaidd Arbennig ym Mhrydain.
"Bydd buddugwyr y Gemau hyn hefyd yn cael mynd ymlaen i Gemau’r Byd 2019 a fydd yn cael eu cynnal yn Abu Dhabi. “Dw i’n gwybod y bydd pob athletwr yn gwneud eu gorau i ddod â’r tlysau ADREF i Gymru.”