Mae Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Rebecca Evans, yn croesawu adroddiad newydd ar gamddefnyddio sylweddau ymhlith oedolion dros 50 oed.
Gofynnodd Llywodraeth Cymru i’r Panel Cynghori Annibynnol ar Gamddefnyddio Sylweddau roi cyngor ar y camau ychwanegol y gellir eu cymryd i fynd i’r afael â’r broblem o gamddefnyddio sylweddau ymhlith poblogaeth sy’n heneiddio.
Mae oedolion hŷn yn dod yn ganran gynyddol fawr o’r boblogaeth. Fel grŵp, maen nhw hefyd yn fwy tebygol na chenedlaethau’r gorffennol i ddatblygu problemau sy’n gysylltiedig â chamddefnyddio sylweddau. Mae hynny’n rhoi mwy o bwysau ar ein gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol, yn ogystal â gwasanaethau eraill.
Er bod yr adroddiad, a gyhoeddwyd heddiw, yn cydnabod bod gwaith da eisoes yn cael ei gyflawni, mae’n dweud bod angen i wasanaethau camddefnyddio sylweddau addasu a datblygu mwy o wasanaethau arbenigol er mwyn diwallu anghenion oedolion hŷn.
Dywedodd Cadeirydd dros dro'r Panel Cynghori ar Gamddefnyddio Sylweddau, Richard Ives:
“Mae nifer y bobl hŷn yn ein cymdeithas yn cynyddu’n gyflym, ac mae cynnydd hefyd yn nifer y bobl hŷn sydd â phroblemau camddefnyddio sylweddau. Mae’n rhaid i wasanaethau ymateb i’r newid cymdeithasol hwn, a’r angen i fod yn hyblyg wrth ddarparu triniaeth effeithiol ar gyfer y cleientiaid hyn.”
Wrth groesawu’r adroddiad, dywedodd Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Rebecca Evans:
“Mae camddefnyddio sylweddau ymhlith oedolion hŷn yn broblem sy’n tyfu o hyd. Mae’r lefelau camddefnyddio alcohol a chyffuriau – gan gynnwys cyffuriau anghyfreithlon a meddyginiaethau sy’n cael eu rhagnodi a’u prynu dros y cownter – yn destun pryder.
“Mae Llywodraeth Cymru, ar y cyd ag Iechyd Cyhoeddus Cymru, yn cymryd amryw o gamau i helpu’r grŵp hwn o bobl, gan gynnwys rhoi ar waith fframwaith triniaethau newydd sy’n benodol ar gyfer pobl hŷn sy’n camddefnyddio sylweddau.
“Fodd bynnag, rydyn ni’n cydnabod bod yna heriau’n dal i fod. Felly, rydyn ni wedi cytuno y dylai’r Panel Cynghori ymchwilio i’r sefyllfa a rhoi cyngor i Lywodraeth Cymru, er mwyn gwybod beth arall y gallwn ei wneud i fynd i’r afael â’r mater hwn. Hoffwn ddiolch i’r Panel am lunio’r adroddiad cynhwysfawr hwn. Bydd yn gyfraniad defnyddiol i’n cronfa o dystiolaeth ynghylch camddefnyddio sylweddau ymhlith oedolion hŷn, wrth inni fynd ati i adeiladu ar y gwaith da sydd eisoes yn mynd rhagddo yng Nghymru.”