Neidio i'r prif gynnwy

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi enwau aelodau'r bwrdd newydd sy'n gyfrifol am wella gofal cymdeithasol yng Nghymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
28 Chwefror 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Bydd Gofal Cymdeithasol Cymru yn dod i rym ar 3 Ebrill 2017 ac yn disodli'r Cyngor Gofal Cymru presennol.  Mae'r newid hwn yn digwydd fel rhan o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016.

Cyhoeddodd y Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Rebecca Evans heddiw y bydd y bwrdd dan gadeiryddiaeth Arwel Ellis Owen, sef Cadeirydd Cyngor Gofal Cymru ar hyn o bryd.

Yr aelodau eraill fydd: Abigail Harris, Aled Roberts, Carl Cooper, Damian Bridgeman, Donna Hutton, Emma Britton, Grace Quantock, Joanne Kember, Jane Moore, Kate Hawkins, Peter Max, Rhian Watcyn Jones, a Simon Burch.

Bydd yr aelodau yn gwasanaethu am gyfnod o bedair blynedd, o 3 Ebrill 2017 hyd at 31 Mawrth 2021.

Dywedodd Rebecca Evans:

"Bydd Gofal Cymdeithasol Cymru yn gorff deinamig a phwerus. Bydd yn ysgwyddo cyfrifoldebau newydd dros sicrhau gwelliannau ar draws ein sector gofal cymdeithasol, yn ogystal â chadw cyfrifoldebau presennol dros reoleiddio a datblygu'r gweithlu.

"Yn dilyn proses ddethol gystadleuol, lle gwelwyd mwy o ddiddordeb nag erioed, rwy'n falch iawn o gyhoeddi enwau aelodau bwrdd newydd Gofal Cymdeithasol Cymru.

"Mae'r aelodau, dan arweiniad Arwel Ellis Owen, yn frwd iawn ac wedi ymroi i wella gofal cymdeithasol yng Nghymru. Mae ganddyn nhw sgiliau, profiadau a safbwyntiau amrywiol, sy'n golygu eu bod yn fwy na pharod i sicrhau gwelliannau mewn gofal cymdeithasol.

"Rwy'n edrych ymlaen at gael cydweithio gyda Gofal Cymdeithasol Cymru wrth iddo sicrhau fod gennym weithlu gofal cymdeithasol o safon uchel, yn darparu gwasanaethau sy’n llwyr fodloni anghenion pobl Cymru."