Heddiw, rhoddodd Vaughan Gething grynodeb o sut mae'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn gweithio i wella gofal ar gyfer pobl sy'n ddifrifol wael yng Nghymru.
Dywedodd Mr Gething:
“Mae'r cynllun hwn a ddatblygwyd gan arbenigwyr mewn gofal critigol yn egluro sut bydd y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn diwallu anghenion pobl sy'n ddifrifol wael, neu sydd mewn perygl o fod yn ddifrifol wael. Mae'n amlinellu hefyd y cynlluniau ar gyfer gwella'r trefniadau i adnabod cleifion yn gynnar, a bydd hyn yn allweddol i osgoi trosglwyddo cleifion yn ddiangen i unedau gofal critigol prysur.
“Rydyn ni'n gwybod bod angen gwneud mwy o waith i wella mynediad at ofal critigol yng Nghymru ac rydyn ni'n gweld cynnydd yn hyn o beth. Mae'r grŵp wedi nodi meysydd lle byddai'n bosibl cynyddu nifer y gwelyau heb orfod cynyddu nifer y staff yn sylweddol.
“Cafodd y cynllun hwn ei ddatblygu gan y Rhwydwaith Gofal Critigol a Thrawma a'r Grŵp Gweithredu ar gyfer y Rhai sy'n Ddifrifol Wael ac mae'n cynnwys y camau sydd angen inni eu cymryd dros y tair blynedd nesaf.
“O ran recriwtio a'r cynnydd yn y galw am ofal critigol, mae Cymru yn wynebu'r un heriau sydd i'w gweld mewn rhannau eraill o'r DU. Rydyn ni'n disgwyl i fyrddau iechyd gydweithio a chynllunio gwasanaethau’n rhanbarthol i ddarparu gofal o ansawdd uchel.
“Rydyn ni wedi gweld cynnydd yn y cyfraddau goroesi dros y blynyddoedd diwethaf a gostyngiad hefyd yn nifer y cleifion sy'n cael eu derbyn unwaith yn rhagor i ofal critigol yn fuan wedi iddyn nhw adael, ac mae hynny'n galonogol iawn. Mae'r cynllun hwn yn egluro sut y gall byrddau iechyd weithio gyda'i gilydd i adeiladu ar y llwyddiant hwn at y dyfodol.”