Mae’r Ysgrifennydd Iechyd, Vaughan Gething, wedi cymeradwyo dros £31m o fuddsoddiad mewn gwasanaethau iechyd ar gyfer plant a babanod sy’n cael eu geni cyn pryd, a gwasanaethau obstetreg, yn y De.
Bydd dros £25m yn cael ei wario ar ailddatblygu’r gwasanaethau ar gyfer babanod newyddanedig a’r gwasanaethau obstetreg yn Ysbyty Athrofaol Cymru.
O ganlyniad i’r buddsoddiad:
- Bydd yr uned ar gyfer babanod newyddanedig yn cael ei hailddatblygu i gynnwys wyth cot gofal dwys ychwanegol a mwy o gyfleusterau ar gyfer cleifion a theuluoedd, gan gynnwys swît ar gyfer teuluoedd sydd wedi colli baban neu blentyn;
- Bydd cyfleusterau obstetreg newydd yn cael eu darparu, gan gynnwys ward gydag wyth gwely ychwanegol ar gyfer cleifion preswyl â chyfleusterau ensuite;
- Bydd theatr lawdriniaeth ddynodedig newydd ar gael, gyda lle penodol i gleifion gael dod at eu hunain yn dilyn llawdriniaeth.
- ehangu’r uned ar gyfer babanod newyddanedig drwy ddarparu naw cot ychwanegol;
- ailddatblygu’r ward obstetreg, i gynnwys chwe ystafell rhoi genedigaeth, ac un ohonynt gyda phwll;
- datblygu’r uned o dan ofal bydwragedd, a fydd yn cynnwys pedair ystafell rhoi genedigaeth, a dwy ohonynt gyda phwll.
Mae’r buddsoddiad yng Nghaerdydd a’r Fro yn fwy oherwydd cymhlethdod y safle a’r cyfyngderau sydd arno o ran lle.
Dywedodd Vaughan Gething, yr Ysgrifennydd Iechyd:
“Bydd y cyllid hwn yn gwella gwasanaethau i famau a babanod yn Ysbyty’r Tywysog Siarl ac Ysbyty Athrofaol Cymru.
“Mae’n rhan o’n hymrwymiad i gefnogi Rhaglen De Cymru drwy ddatblygu’r gwasanaethau iechyd i fenywod a babanod, gan sicrhau eu bod yn addas ar gyfer y dyfodol.
“Bydd y buddsoddiad sylweddol hwn yn ein helpu i ddarparu’r gofal gorau posibl, yn unol â’r canllawiau a’r safonau sy’n cael eu rhoi gan gyrff arbenigol, gan gynnwys Coleg Brenhinol yr Obstetryddion a’r Gynaecolegwyr a rhwydwaith newyddenedigol Cymru gyfan. Bydd yn creu capasiti ychwanegol i fodloni’r galw cynyddol am wasanaethau yn y dyfodol.
“Mae’n enghraifft arall o sut rydyn ni’n buddsoddi i wella gofal iechyd ar gyfer y dyfodol, er budd pobl Cymru.”
Mae disgwyl i’r cynlluniau gael eu cwblhau erbyn mis Rhagfyr 2017 ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf, ac erbyn mis Mehefin y flwyddyn ganlynol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro.