Yn mwyafrif o amgylchiadau, ni fydd angen caniatâd cynllunio er mwyn troi seler neu islawr mewn eiddo preswyl yn ardal fyw, ar yr amod nad yw'n uned ar wahân, nad yw at ddefnydd tra gwahanol ac na newidir ymddangosiad allanol yr adeilad.
Mae'n debygol y bydd angen caniatâd cynllunio i gloddio er mwyn creu islawr newydd sy'n golygu gwaith sylweddol, sy'n creu uned newydd o lety ar wahân a/neu sy'n newid golwg allanol y tŷ, er enghraifft, am fod siafft oleuni'n cael ei hychwanegu.
Os ydych yn byw mewn adeilad rhestredig, mae'n debygol y bydd arnoch angen caniatâd i wneud gwaith mewnol neu allanol.
Beth bynnag fo'r amgylchiadau, fe'ch cynghorir i gysylltu â'ch Awdurdod Cynllunio Lleol i ofyn am gyfarwyddyd ynghylch y polisi lleol cyn dechrau ar unrhyw waith.