Mae sefydliadau’n cael eu hannog i weithio mewn partneriaeth i sicrhau bod gweithgareddau nos yng nghanol trefi a dinasoedd Cymru yn iach a diogel.
Heddiw, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi ei Fframwaith ar gyfer Rheoli Economi’r Nos, sy’n darparu gwybodaeth y gall cyrff megis yr heddlu, y GIG, awdurdodau lleol a busnesau ei defnyddio i gadw pobl yn fwy diogel pan fyddant ar noson allan; yn mynd i fwyty; yn mynd i’r sinema; neu’n mynd i ddigwyddiad chwaraeon neu gyngerdd, rhwng 6pm a 6am.
Dyma rai o’r camau sy’n cael eu hawgrymu:
- Darparu seilwaith teithio diogel drwy fuddsoddi mewn gwasanaeth bysiau neu drenau nos, defnyddio swyddogion tacsi ac asesu anghenion trafnidiaeth yn ystod digwyddiadau mawr.
- Annog safleoedd i gytuno ar bolisi clir ar chwilio ac atafaelu cyffuriau, cynnig gwasanaethau allgymorth cyffuriau mewn tafarnau a chlybiau ac atal yfed alcohol ar drafnidiaeth gyhoeddus gyda’r nos, er mwyn lleihau camddefnydd o alcohol a sylweddau.
- Creu amgylchedd diogel a glân drwy ddarparu goleuadau stryd, sicrhau cyfleusterau toiled digonol a defnyddio cwpanau a photeli plastig yn lle rhai gwydr.
- Darparu gwasanaethau brys achrededig megis Ambiwlans Sant Ioan.
“Mae economi nos lewyrchus yn hollbwysig ar gyfer swyddi a refeniw. Mae hefyd yn cyfrannu mewn ffordd gadarnhaol at fywyd a diwylliant Cymru. Fodd bynnag, mae’n hanfodol fod pobl yn ddiogel pan fyddan nhw’n mwynhau noson allan, yn mynd i fwyty, yn mynd i’r theatr, neu’n mynd i ddigwyddiad chwaraeon neu gyngerdd.
“Mae’r Fframwaith rwy’n ei gyhoeddi heddiw’n nodi sut y gall cyrff allweddol, megis yr heddlu, y Gwasanaeth Iechyd, awdurdodau lleol a busnesau gydweithio i gael gwell dealltwriaeth o’r heriau sy’n codi yn ystod y nos, sut y gellir atal y rhain a sut i orfodi polisïau a deddfwriaeth.”
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi chwarae rhan allweddol yn y gwaith o ddatblygu’r Fframwaith.
Dywedodd Janine Roderick, Arweinydd Polisi Iechyd y Cyhoedd a Phlismona, Iechyd Cyhoeddus Cymru:
“Mae bywyd nos iach yn rhywbeth rydyn ni’n ei gefnogi ym meysydd iechyd y cyhoedd a phlismona, ac mae’n ffurfio rhan bwysig o economi, bywyd cymdeithasol a llesiant Cymru. Yn rhy aml o lawer ar noson allan, gall unigolion meddw iawn achosi perygl i’w hiechyd eu hunain ac iechyd y bobl o’u cwmpas, ac mae hynny’n drist.
“Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn gadarn o blaid lleoliadau bywyd nos cynhwysol sy’n cael eu rheoli’n dda, a lle gall pob rhan o gymdeithas ymlacio a chymdeithasu. Rydyn ni felly’n croesawu fframwaith cynhwysol a chynaliadwy Llywodraeth Cymru i reoli economi’r nos yng Nghymru.”
Mae’r Fframwaith hefyd yn tynnu sylw at enghreifftiau o’r arferion gorau yng Nghymru a ledled y byd, megis y Man Cymorth ar Stryd y Gwynt yn Abertawe lle cyhoeddodd y Gweinidog y Fframwaith.
Sefydlwyd y Man Cymorth gan Gomisiynydd Heddlu a Throseddu De Cymru mewn partneriaeth â Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg yn 2014. Mae’n fan diogel i roi triniaeth i bobl sydd angen dod dros effeithiau yfed llawer iawn o alcohol.
Dywedodd Alun Michael, Comisiynydd Heddlu a Throseddu De Cymru:
"Mae economi liw nos De Cymru yn cynnig llawer o fanteision cymdeithasol, diwylliannol ac economaidd i'r gymuned. Mae sicrhau diogelwch cwsmeriaid ein heconomi liw nos yn hollbwysig i Heddlu De Cymru, fel y nodir yn fy Nghynllun Gostwng Troseddu.
"Yr enghraifft orau o hyn yw effaith y Man Cymorth yn Abertawe. Mewn cyfnod o 12 mis, gwnaeth y Man Cymorth ddelio â phobl agored i niwed a fyddai fel arall wedi cyfateb i 1,300 o deithiau ambiwlans a 1,100 o dderbyniadau i adrannau Damweiniau ac Achosion Brys ac, ar 1,300 o achlysuron, roedd modd i Swyddogion yr Heddlu ddychwelyd i'r stryd, gan gadw'r heddwch lle byddent fel arall wedi bod yn delio â phobl agored i niwed sydd o dan ddylanwad alcohol.
“Mae'n dangos gwir werth y gweithwyr proffesiynol sy'n gweithio yn ein heconomi liw nos gyda chymorth myfyrwyr-wirfoddolwyr a Gwasanaeth Ambiwlans St John. Mae hon ond yn un enghraifft o weithio gyda'n gilydd i gadw'r cyhoedd yn ddiogel yn yr economi liw nos.
"Drwy gysylltiadau hirsefydliedig cryf gyda phartneriaid ym maes gorfodi'r gyfraith, llywodraeth, elusennau a busnesau lleol, rydym wedi llwyddo i ddarparu llawer o weithgareddau gweithredol a mentrau lleol er mwyn sicrhau bod y rheini sy'n ymweld â'n heconomi liw nos, neu'n gweithio ynddi, yn ddiogel.
"Dros y 12 mis diwethaf rydym wedi gallu gweithio'n effeithiol gyda phartneriaid i rannu data hanfodol ar droseddwyr a dioddefwyr troseddau, cyflwyno ymgyrchoedd trawiadol i leihau troseddau treisgar, hyrwyddo cynlluniau i leihau'r galw ar y gwasanaethau brys ac erlyn y rheini sy'n bygwth diogelwch y rheini yn ein heconomi liw nos.
"Drwy weithio gyda'n gilydd, gall economi liw nos De Cymru barhau i ddatblygu a ffynnu."