Mae blwyddyn wedi bod ers i Gymru cyflwyno system arloesol o gydsyniad tybiedig ar gyfer rhoi organau.
Ar 1 Rhagfyr 2015, Cymru oedd y wlad gyntaf yn y DU i gyflwyno system feddal o optio allan ar gyfer rhoi organau.
Caiff pobl 18 oed neu hŷn sydd wedi byw yng Nghymru am fwy na deuddeng mis ac sy’n marw yng Nghymru eu hystyried bellach fel pe baent wedi rhoi cydsyniad i roi organau, oni bai eu bod wedi optio allan. Mae hyn yn cael ei alw’n gydsyniad tybiedig.
Gall pobl sy’n dymuno bod yn rhoddwr organau gofrestru penderfyniad i optio i mewn neu wneud dim, a fydd yn golygu nad oes ganddynt wrthwynebiad i roi organau. Gall y bobl hynny nad ydynt yn dymuno bod yn rhoddwr organau optio allan unrhyw bryd.
Flwyddyn yn ddiweddarach, mae'r ffigurau diweddaraf yn dangos bod 39 o organau oddi wrth gleifion y tybiwyd eu bod yn rhoi caniatâd wedi'u trawsblannu i bobl a oedd angen organau newydd.
Yn ystod y ddwy flynedd cyn cyflwyno'r system newydd o gydsyniad tybiedig, fe wnaeth Llywodraeth Cymru ymdrech sylweddol i hysbysu'r cyhoedd am union natur y newidiadau arfaethedig ynghylch trawsblannu. Yn ystod y cyfnod hwn, bu cynnydd yn nifer y trawsblaniadau organau bob blwyddyn, o 120 rhwng 1 Rhagfyr 2013 a 31 Hydref 2014, i 160 rhwng 1 Rhagfyr 2015 a 2016.
Dywedodd y Prif Weinidog, Carwyn Jones:
"Does dim un o wledydd eraill y Deyrnas Unedig yn gwneud fel Cymru o ran rhoi organau. Rydyn ni'n falch iawn o'r hyn rydyn ni wedi'i gyflawni hyd yn hyn.
"Mae rhoi organau yn weithred hael tu hwnt ac yn sgil y ddeddfwriaeth flaengar hon, mae mwy o organau ar gael i'r rhai sydd dirfawr angen trawsblaniad.
"Mae rhoddwyr organau Cymru o bosib yn rhoi bywyd i bobl eraill. Flwyddyn ar ôl dechrau'r ddeddfwriaeth arloesol hon, hoffwn i ddiolch i'r holl roddwyr, ac annog pobl sydd heb drafod eu dymuniadau rhoi organau eto i gynnal y sgwrs honno gyda'u hanwyliaid."
Dywedodd yr Ysgrifennydd Iechyd, Vaughan Gething:
"Yn y flwyddyn ddiwethaf yn unig, rydyn ni wedi gweld cynnydd cyson yn nifer yr achosion o achub neu wella bywydau yng Nghymru drwy drawsblaniadau. Mae hyn yn newyddion da.
"Mae'r ffigurau diweddaraf ynghylch cydsyniad tybiedig yn rai calonogol. Rydyn ni'n symud i'r cyfeiriad cywir, ond rwy'n awyddus i weld y ffigurau yn cynyddu eto yn y dyfodol.
"Rwy'n falch tu hwnt o fedru dweud, diolch i'r ddeddfwriaeth hon gan Lywodraeth Cymru, ein bod ni'n arwain y ffordd fel gwlad gyntaf y Deyrnas Unedig i gael system feddal o optio allan ar gyfer cydsynio.
"Rwy'n disgwyl y bydd y system newydd sydd yn ei lle yn creu newid sylweddol i roi organau yng Nghymru. Mae'r manteision i'r rhai sydd angen trawsblaniad yn mynd i drawsnewid eu bywydau - yn llythrennol."
Yn ddiweddarach heddiw, bydd y Prif Weinidog a'r Ysgrifennydd Iechyd yn bresennol mewn digwyddiad arbennig i nodi blwyddyn gyntaf cydsyniad tybiedig ar gyfer rhoi organau yn yr Uned Drawsblaniadau yn Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd.
Dywedodd Maria Battle, Cadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro:
"Rydyn ni'n falch iawn o fedru chwarae ein rhan yn y newid sylfaenol hwn i'r gyfraith.
"Mae Uned Drawsblaniadau Ysbyty Athrofaol Cymru yn chwarae rhan hanfodol yn helpu i achub bywydau'r rhai sydd angen trawsblaniad o bob cwr o Gymru.
"Rydyn ni eisoes yn gweld effeithiau cadarnhaol y system optio allan newydd a'r cyhoeddusrwydd yn ei sgil, gyda mwy o deuluoedd yn gwneud y penderfyniad dewr iawn o roi organau eu hanwyliaid i helpu teuluoedd eraill, gan roi bywyd iddyn nhw yn y pen draw.
"Mae'r dystiolaeth yn dangos bod cymaint mwy o ymwybyddiaeth o roi organau yn ein cymunedau nawr, a bod hynny wedi annog teuluoedd i gael y sgwrs hanfodol honno am eu dymuniadau ar ddiwedd eu bywydau."