Rheolau newydd yn ei wneud yn ofynnol i siopau tecawê bwyd dynnu sylw at eu sgoriau hylendid bwyd ar daflenni a bwydlenni sy’n galluogi cwsmeriaid i archebu dros y ffôn neu ar-lein.
Dair blynedd yn ôl yn union, Cymru oedd y wlad gyntaf yn y DU i greu cynllun statudol ar gyfer sgorio hylendid bwyd.
Roedd Deddf Sgorio Hylendid Bwyd (Cymru) 2013 yn ei gwneud yn orfodol i bob busnes bwyd – megis bwytai, tafarndai, caffis, siopau tecawê, gwestai ac archfarchnadoedd – arddangos eu sgoriau hylendid bwyd yn gyhoeddus ar eu safleoedd.
Mae’r cynllun wedi bod yn llwyddiant mawr wrth godi safonau hylendid. Mae’r ffigurau diweddaraf yn dangos bod gan dros 94% o fusnesau bwyd yng Nghymru bellach sgôr sy’n golygu ei fod yn foddhaol ar y cyfan (sef 3 neu uwch) a bod gan 62.5% o fusnesau bwyd Cymru y sgôr uchaf, sef 5 (Da Iawn).
O’i gymharu, ychydig cyn i’r ddeddfwriaeth ddod i rym ym mis Tachwedd 2013, roedd gan 87% o fusnesau bwyd Cymru sgôr o 3 neu uwch ac roedd sgôr o 5 gan 45% o fusnesau.
O heddiw ymlaen, os bydd taflen neu fwydlen tecawê yn dangos bod bwyd ar werth, y pris a modd o archebu’r bwyd heb ymweld â’r lleoliad, bydd rhaid iddi gynnwys hefyd ddatganiad dwyieithog sy’n annog cwsmeriaid i edrych ar sgôr hylendid bwyd y busnes ar y wefan sgorio hylendid bwyd. Bydd y datganiad hefyd yn atgoffa cwsmeriaid bod ganddynt hawl cyfrieithiol i ofyn i’r busnes bwyd am ei sgôr hylendid bwyd pan fyddant yn archebu bwyd dros y ffôn.
Mae'r ddeddfwriaeth hefyd yn galluogi busnesau bwyd i arddangos eu sgôr hylendid bwyd dilys ar y math hwn o ddeunydd cyhoeddusrwydd yn wirfoddol. Ond, os gwnânt hyn, rhaid i’r sgôr fod yn ddilys ac yn y fformat penodedig er mwyn ei weld yn glir.
Dywedodd y Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Rebecca Evans:
“Mae’r cynllun hylendid bwyd wedi bod yn un o lwyddiannau mawr deddfwriaeth a wnaed yng Nghymru. Mae wedi bod yn sbardun allweddol wrth godi safonau mewn bwytai, tafarndai, caffis a busnesau bwyd eraill ar draws Cymru.
“Dw i wrth fy modd bod gan 7% yn fwy o fusnesau bwyd bellach sgôr boddhaol neu uwch, a bod 17.5% yn fwy o fusnesau yn gallu ymfalchïo bod ganddynt y sgôr uchaf, sef 5. Dylai pawb sydd wedi cymryd rhan yn y cynllun, gan gynnwys busnesau bwyd, fod yn falch iawn o’r cynnydd hwn.
“Diben y rheolau newydd sy’n dod i rym heddiw yw diogelu ymhellach gwsmeriaid sy’n archebu bwyd dros y ffôn, neu ar-lein, na chânt y cyfle i weld y sgôr ar arddangos yn y safle drostynt eu hunain cyn archebu. Bydd arddangos y datganiad ar daflenni’n annog cwsmeriaid i edrych ar y sgôr ar-lein neu ofyn i’r busnes tecawê am ei sgôr dros y ffôn cyn archebu.”