Yn ôl adroddiad newydd gan Lywodraeth Cymru, mae mwy o bobl yn goroesi strôc yng Nghymru.
Bydd tua 7,400 o bobl bob blwyddyn yn cael strôc yng Nghymru. Mae'r Adroddiad Blynyddol Strôc, sy'n cael ei gyhoeddi heddiw, yn dangos bod nifer y bobl sy'n gwella o strôc yn parhau i gynyddu ar hyd a lled Cymru.
Dros y 10 mlynedd diwethaf, mae cyfraddau goroesi yn dilyn strôc ar gyfer pobl 74 oed ac iau wedi gwella 5.7% - o 87% yn 2006-07 i 92.7% yn 2015-16. Mae'r gyfradd ar gyfer pobl 75 oed a hŷn wedi gwella 7.3% - o 71.5% yn 2006-07 i 78.8% yn 2015-16.
Mae nifer y bobl sy'n marw o strôc hefyd yn lleihau. Yng Nghymru, mae nifer y marwolaethau o strôc wedi lleihau 623 (22%) ers 2010, o 2,795 i 2,172 yn 2015.
Caiff gwasanaethau strôc eu goruchwylio gan Grŵp Gweithredu ar gyfer Strôc dan arweiniad y GIG yng Nghymru. Mae hyn yn cynnwys cynrychiolaeth o'r Gymdeithas Strôc, GPC Cymru, Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru, Iechyd Cyhoeddus Cymru, byrddau iechyd, gwasanaethau cymdeithasol a Llywodraeth Cymru.
Dros y 12 mis diwethaf, gwelwyd cynnydd parhaus o ran y gwasanaethau ar gyfer pobl sydd wedi dioddef strôc. Mae enghreifftiau gwych ar gael o wasanaethau'n gwella ar hyd a lled Cymru wrth ddelio â galw cynyddol a mwy cymhleth am y gwasanaethau.
Mae angen i'r gwasanaethau barhau i weddnewid os am ymdopi â nifer cynyddol y cleifion a'u hanghenion cymhleth. Mae'r gwaith o ad-drefnu gwasanaethau Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan a Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf dros y 12 mis diwethaf wedi arwain at welliant mewn perfformiad yn erbyn Rhaglen Archwiliad Cenedlaethol ar gyfer Strôc Sentinel (SSNAP) Coleg Brenhinol y Meddygon.
Ers 2015-16, mae Llywodraeth Cymru wedi dyrannu £1 miliwn bob blwyddyn ar gyfer cyflawni'r blaenoriaethau a nodwyd gan y grŵp.
Wrth groesawu'r adroddiad, dywedodd yr Ysgrifennydd Iechyd, Vaughan Gething:
"Mae'r ffaith bod mwy o bobl yn goroesi strôc yng Nghymru yn newyddion cadarnhaol.
"Mae'r gwelliannau sydd wedi'u gwneud dros y 10 mlynedd diwethaf yn dystiolaeth o'r cydweithio da sy'n cael ei wneud gan y gwasanaeth iechyd, drwy'r Grŵp Gweithredu ar gyfer Strôc, i drin nid yn unig bobl sydd wedi dioddef strôc, ond hefyd i'w cefnogi i adsefydlu.
"Rydyn ni am i bawb sydd wedi dioddef strôc allu cael mynediad at y gofal gorau posibl, lle bynnag maen nhw'n byw. Ni fyddai'r cynnydd rydyn ni wedi'i wneud wedi bod yn bosibl heb y timau medrus ac ymroddgar sydd gennym ni yn y gwasanaeth iechyd - yn ein meddygfeydd, y gwasanaeth ambiwlans, mewn ysbytai, timau cymunedol a'r sector gwirfoddol.
"Rydyn ni'n ymwybodol bod modd atal nifer o'r achosion o strôc pe byddai pobl yn byw'n fwy iach ac rwy'n annog pawb i wneud dewisiadau gwell mewn bywyd. Rydyn ni am weld y niferoedd o bobl sy'n dioddef strôc yn parhau i leihau ac mae gan y cyhoedd rôl bwysig i'w chwarae er mwyn cyflawni hyn."