Bydd canllawiau newydd i fesur sut y mae pobl sydd ag anghenion gofal a chymorth yn cyflawni eu nodau, yn cael effaith wirioneddol a chadarnhaol ar fywydau pobl.
Dyna oedd neges y Gweinidog dros Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Rebecca Evans, wrth gyhoeddi’r dull newydd i bob awdurdod lleol yng Nghymru gofnodi ac adrodd ar gynnydd pobl tuag at gyflawni eu canlyniadau personol.
Mae Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru), a ddaeth i rym ym mis Ebrill 2016, yn rhoi pwyslais ar lesiant a sut y gall gwasanaethau helpu pobl a'u gofalwyr i gyflawni’r hyn sy'n bwysig iddynt.
Dywedodd y Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Rebecca Evans:

"Gyda dyfodiad y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant cafodd gofal a chymorth yma yng Nghymru eu gweddnewid. Mae'n rhoi pobl y mae arnynt angen gofal a chymorth, a gofalwyr y mae arnynt angen cymorth, wrth wraidd y system gofal cymdeithasol ac yn sicrhau eu bod yn rhan o’r penderfyniadau sy'n effeithio arnynt. "Bydd y canllawiau yr wyf wedi'u cyhoeddi heddiw yn ein helpu i werthuso sut y mae’r Ddeddf yn cael yn cael effaith wirioneddol a chadarnhaol ar fywydau pobl."Bydd yn grymuso pobl, ynghyd â'u hawdurdodau lleol, i nodi a gwella'r cynnydd y maent yn ei wneud tuag at gyflawni’r pethau sy'n bwysig iddynt, er enghraifft, aros yn annibynnol yn eu cartrefi eu hunain neu fyw’n ddiogel gyda'u teuluoedd".