Neidio i'r prif gynnwy

Buddsoddiad gan Lywodraeth Cymru o dros £10m er mwyn i unedau cardiaidd mewn ysbytai gael cyfarpar allweddol newydd ar gyfer eu labordai.

Cyhoeddwyd gyntaf:
16 Tachwedd 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae triniaethau cardiaidd allweddol, sy’n hanfodol ar gyfer darparu gwasanaethau cardiaidd modern megis angiograffeg goronaidd a gosod rheolyddion calon, yn cael eu gwneud mewn labordai cathetreiddio.
Caiff yr arian ei ddefnyddio i dalu am systemau delweddu a monitro newydd mewn saith o’r 10 labordy cathetreiddio sydd yng Nghymru. Nid oes angen cyfarpar newydd yn y tri labordy arall ar hyn o bryd.
Dywedodd yr Ysgrifennydd Iechyd, Vaughan Gething:

“Rydyn ni wedi ymrwymo i wella gwasanaethau clefyd y galon yng Nghymru. Rydym yn parhau i fuddsoddi mewn gwasanaethau cardioleg ac rydyn ni’n sicrhau bod ysbytai’n gallu trin cleifion sydd wedi cael diagnosis o gyflwr ar y galon yn gyflym ac yn effeithiol, a hynny mor agos â phosibl i’w cartrefi.  
“Mae’n bwysig gwneud diagnosis mor fuan â phosibl er mwyn i gleifion allu cael y siawns orau o gael canlyniad da.” 

Mae byrddau iechyd ledled Cymru wedi derbyn yr arian isod: 
  • Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan wedi cael £1.77m ar gyfer y labordy yn Ysbyty Brenhinol Gwent

  • Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg wedi cael £2.43m ar gyfer Ysbyty Treforys, ac £1.66m ar gyfer Ysbyty Tywysoges Cymru

  • Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi cael £1.52m ar gyfer Ysbyty Glan Clwyd

  • Mae’r ddau labordy yn Ysbyty Athrofaol Cymru, sydd o dan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, wedi cael £2.48m
  • Mae Bwrdd Iechyd Cwm Taf wedi cael £0.81m ar gyfer y labordy yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg.
Mae’r amrywiadau yn yr arian a roddir i wahanol safleoedd ledled Cymru yn adlewyrchu gwahaniaethau ym manyleb y cyfarpar a’r costau sy’n gysylltiedig â’i osod.