“Mae’n hanfodol bwysig sicrhau’r gofal canser gorau posibl i gleifion yng Nghymru”, meddai’r Ysgrifennydd Iechyd, Vaughan Gething.
Mae Llywodraeth Cymru wedi diwygio ei Chynllun Cyflawni ar gyfer Canser, a heddiw cafodd y cynllun diwygiedig hwnnw ei lansio gan yr Ysgrifennydd Iechyd, Vaughan Gething.
Cafodd y cynllun ei ddiwygio gan y Grŵp Gweithredu ar Ganser ar y cyd â rhanddeiliaid perthnasol, gan gynnwys y trydydd sector. Ynddo mae ymrwymiadau i barhau i gynyddu nifer y cleifion canser sy’n goroesi; lleihau nifer y marwolaethau cynnar sy’n digwydd oherwydd y clefyd hwn; a chau’r bwlch sydd rhwng yr hyn a gynigir yng Nghymru a’r hyn sydd ar gael gan ddarparwyr gofal canser gorau Ewrop.
Mae’r cynllun yn canolbwyntio ar sicrhau canlyniadau gwell i’r rheini sy’n dioddef o ganser yr ysgyfaint; canfod canser ynghynt drwy wella mynediad i adnoddau diagnosteg; a sicrhau bod y GIG yn rhoi gofal o’r safon uchaf i gleifion yng Nghymru.
Dywedodd Vaughan Gething:
“Mae’n ffaith drist bod canser yn cyffwrdd â bywyd pawb ar ryw bwynt. Bydd gan y rhan fwyaf ohonon ni ffrind neu berthynas sydd wedi dioddef o’r clefyd, a bydd rhai wedi cael profiad personol ohono. Er y bydd nifer wedi colli’r frwydr, rhaid bod yn ddiolchgar hefyd y bydd llawer wedi goroesi, ac wedi gallu mynd ymlaen i fyw bywyd llawn ac iach.
“Rydyn ni’n falch o’r faith bod cyfraddau goroesi canser yma yng Nghymru yn parhau i godi flwyddyn ar ôl blwyddyn. Mae nifer y marwolaethau cynnar oherwydd canser wedi gostwng oddeutu 14% dros gyfnod o ddeg mlynedd. Ar y cyfan roedd y sgoriau yr oedd cleifion yng Nghymru wedi eu rhoi i ddisgrifio eu profiad o gael eu trin am ganser yn rhai positif.
“Mae’r gwariant ar wasanaethau canser wedi codi o £347 miliwn yn 2011-12 i £409 miliwn yn 2014-15. Rydyn ni wedi rhoi bron £10 miliwn i gael cyflymyddion llinellol (linear accelerators) newydd; rydyn ni’n cefnogi’n llawn y gwaith o ddatblygu Canolfan Canser newydd gwerth £200 miliwn yn Felindre; ac mae £15 miliwn wedi ei neilltuo yn y gyllideb ddrafft ar gyfer adnoddau diagnosteg gwell.
“Er gwaethaf hyn i gyd, mae bob amser rhagor i’w wneud yn yr ymgyrch i ddarparu’r gofal canser gorau posibl yma yng Nghymru, ac mae hynny’n hanfodol bwysig.
“Dw i’n awyddus i weld bod triniaeth o’r radd flaenaf ar gael i unrhyw un sy’n dioddef o unrhyw fath o ganser, a hynny drwy gydol ei brofiad o drin y clefyd. Mae ein cynllun diwygiedig, Law yn Llaw at Iechyd – Cynllun Cyflawni ar gyfer Canser – cynllun a gafodd ei gyhoeddi gyntaf yn 2012 – yn nodi’n glir y camau rydyn ni am eu cymryd i wella cyfraddau goroesi canser.
“Dyma ein gweledigaeth ar gyfer y dyfodol – ein hymrwymiad ysgrifenedig i sicrhau ein bod ymhlith y gorau yn Ewrop o ran ein gofal canser. Nid yw pobl Cymru yn haeddu llai.”