Mae’r Ysgrifennydd Iechyd, Vaughan Gething wedi canmol canlyniadau perfformiad ardderchog meddygfeydd teulu Cymru eleni.
Wrth fesur yn ôl y Fframwaith Ansawdd a Chanlyniadau, sy’n elfen o’r Contract Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol, y sgôr cyfartalog ar draws y 449 practis meddyg teulu oedd 96.6%.
Dywedodd Vaughan Gething:
“Mae meddygfeydd Cymru wedi perfformio’n gyson ardderchog ac rydw i am eu llongyfarch nhw am eu gwaith caled a diolch iddyn nhw am eu hymroddiad a’u gofal dros gleifion.
“Rydyn ni’n gwybod bod meddygon Cymru’n gweithio’n galed iawn ac yn wynebu heriau ar hyn o bryd, dyma pam rydyn ni’n parhau i fuddsoddi arian newydd mewn gofal sylfaenol - £42m eleni yn unig.
“Rydyn ni’n gweithio gyda byrddau iechyd a meddygon teulu i foderneiddio’r ffordd mae gwasanaethau’n cael eu darparu, er mwyn rhyddhau’r meddygon i ofalu am y cleifion sydd â’r anghenion mwyaf cymhleth.
“Mae’r canlyniadau perfformiad diweddar yn dangos bod meddygon yn gweithio’n galed i ddarparu gofal o ansawdd uchel i’w cleifion ac yn perfformio’n dda yn erbyn targedau heriol.”