Bydd pedwar gwasanaeth yn rhannu cyfanswm o £1m eleni.
Bydd pedwar gwasanaeth yn rhannu cyfanswm o £1m eleni. Bydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf yn cael £264,000 i gael peiriannau sychu newydd, i wasanaethu dau ysbyty rhanbarth cyffredinol, pum ysbyty cymunedol, a Pharc Iechyd Prifysgol Keir Hardie.
Dywedodd Vaughan Gething:
“Mae’n wych cael y cyfle i gwrdd â rhai o arwyr anhysbys y GIG. Mae’r timau hyn yn cynnal gwasanaeth hanfodol i gleifion ledled Rhondda Cynon Taf a Merthyr Tudful.
“Yn 2014-2015 cafodd bron 30 miliwn o eitemau unigol eu golchi yn y GIG yng Nghymru. Mae ein timau londri’n cyflawni gwaith mawr ac effeithlon sy’n helpu i gadw cleifion yn ddiogel ac yn gynnes. Mae darparu cynfasau a dillad ysbyty glân yn rhan hanfodol o ddarparu gofal o safon i gleifion, a rhaid cydnabod y cyfraniad y mae’r timau hyn yn ei wneud.
“Dyna pam rydym yn buddsoddi £1m eleni mewn gwasanaethau londri ym Myrddau Iechyd Prifysgol Cwm Taf, Betsi Cadwaladr, Abertawe Bro Morgannwg ac Aneurin Bevan.
“Bydd yr arian yn talu i gael offer newydd yn lle’r hen offer, gan wella amgylcheddau gweithio a gan ei wneud yn bosibl i dimau londri gyflawni mwy.”
Yn y Gogledd, bydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn cael £384,000 i brynu offer smwddio newydd i Ysbyty Glan Clwyd, lle mae 29,000 o gynfasau’n cael eu smwddio bob wythnos ar hyn o bryd. Gall yr offer presennol smwddio 700 o gynfasau’r awr, ond bydd yr offer mwy dibynadwy newydd yn gallu smwddio 1,000 o gynfasau’r awr.
Bydd £250,000 yn cael ei ddefnyddio i wella to’r gwasanaeth londri ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg.
Bydd Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan yn cael £102,000 tuag at brynu offer newydd i’w ddefnyddio yn lle’r hen offer, fel rhan o raglen waith i gael peiriannau golchi mawr newydd.