Mae rhoi Plant Iach Cymru ar waith yn un o flaenoriaethau'r Llywodraeth yn ei rhaglen lywodraethu, Symud Cymru Ymlaen 2016-21.
Mae rhoi Plant Iach Cymru ar waith yn un o flaenoriaethau'r Llywodraeth yn ei rhaglen lywodraethu, Symud Cymru Ymlaen 2016-21.
Dywedodd Rebecca Evans:
"Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i fynd i'r afael ag anghydraddoldebau iechyd a phrofiadau niweidiol yn ystod plentyndod. Bydd Plant Iach Cymru'n ein helpu i wneud hyn ac i geisio goresgyn yr her sylweddol mae tlodi plant yn ei achosi o ran gwella canlyniadau iechyd.
"Mae Plant Iach Cymru, sy'n rhaglen gydweithredol dan arweiniad y gwasanaethau, wedi rhoi'r cyfle i ni ailedrych ar wasanaethau iechyd plant a defnyddio'r dystiolaeth ddiweddaraf i ddatblygu a chytuno ar ddulliau addas i Gymru gyfan allu monitro a chefnogi datblygiad plentyn.
"Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i'r gweithwyr proffesiynol ym maes iechyd sydd wedi cyfrannu at ddatblygu rhaglen Plant Iach Cymru."
Bydd Plant Iach Cymru’n sefydlu rhaglen iechyd gyffredinol ar gyfer pob teulu â phlant rhwng 0 – 7 oed. Ynghyd ag amrywiaeth o fesurau ataliol ac ymyrraeth gynnar sy'n seiliedig ar dystiolaeth megis sgrinio ac archwiliadau datblygu, bydd y rhaglen hefyd yn cynnwys cyngor a chanllawiau i gefnogi rhieni'n gyffredinol ac i'w helpu i wneud dewisiadau i fyw bywyd iach.
Elfen hollbwysig o'r rhaglen yw ei bod yn nodi'r cysylltiad y gall plant a'u teuluoedd ddisgwyl ei gael gyda'u byrddau iechyd, rhwng cael eu trosglwyddo o'r gwasanaeth mamolaeth a'u blynyddoedd cyntaf yn yr ysgol. Bydd y cysylltiad cyffredinol hwn yn ymwneud â thri maes o ymyrraeth sef sgrinio, imiwneiddio, a monitro a chefnogi datblygiad plentyn.
Cyhoeddodd y Gweinidog ddechrau'r rhaglen mewn digwyddiad ar y cyd â’r Gymdeithas Ymarferwyr Cymunedol ac Ymwelwyr Iechyd (Unite/CPHVA) yn Stadiwm Swalec, Caerdydd. UK Health Visitor Week (Saesneg yn unig) (#HVweek) hefyd ei lansio yn y digwyddiad. Bydd pob un o fyrddau iechyd Cymru'n dechrau rhoi'r rhaglen ar waith o 1 Hydref.